Saliwt gynnau yng Nghaerdydd er cof am Ddug Caeredin

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Saliwt gynnau Castell Caerdydd er cof am Ddug Caeredin

Mae saliwt gynnau er mwyn nodi marwolaeth Dug Caeredin wedi cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn, yn ogystal â nifer o leoliadau eraill ledled y Deyrnas Unedig.

Bu farw'r Tywysog Philip, fu'n ŵr i'r Frenhines Elizabeth II am 73 mlynedd, yn 99 oed ddydd Gwener.

Mewn dinasoedd megis Caerdydd, Llundain, Caeredin a Belfast cafodd ergyd ei thanio pob munud am 41 munud o 12:00, meddai'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Aelodau o gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol o farics Rhaglan fu'n gyfrifol am danio'r gynnau yng Nghaerdydd - yr unig gatrawd saliwtio yng Nghymru.

Ymysg y rheiny oedd yn bresennol yn y seremoni oedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac Andrew Dawes, pennaeth y Fyddin yng Nghymru.

Cadarnhau manylion yr angladd

Roedd y cyhoedd wedi cael eu hannog i beidio â mynychu'r saliwtiau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Bu llongau'r Llynges ar y môr - HMS Diamond a HMS Montrose - yn gwneud yr un fath er cof am wasanaeth y Dug fel swyddog yn y Llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd digwyddiad bychan hefyd ei gynnal gan Glwb Iotio Brenhinol Cymru yng Nghaernarfon - clwb yr oedd y Dug yn noddi.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tywysog Cymru bod bywyd ei dad yn "gyflawniad syfrdanol"

Wrth roi teyrnged i'w dad ddydd Sadwrn, dywedodd Tywysog Cymru fod y Dug "wedi rhoi'r gwasanaeth mwyaf syfrdanol a ffyddlon i'r Frenhines, fy nheulu a'r wlad, a hefyd i'r Gymanwlad gyfan".

"Fel y gallwch ddychmygu, rydw i a fy nheulu yn ei golli'n ofnadwy," meddai'r Tywysog Charles.

"Roedd yn ffigwr oedd yn cael ei garu a'i werthfawrogi'n fawr, ac fe alla i ddychmygu y byddai wir yn gwerthfawrogi'r nifer o bobl ar draws y byd sy'n rhannu ein colled a'n tristwch.

"Roedd fy nhad annwyl yn berson arbennig fyddai wedi'i syfrdanu gan yr ymateb a'r teyrngedau hefyd sydd wedi'i roi iddo, ac rydw i a fy nheulu wir yn gwerthfawrogi hynny.

"Bydd hynny'n gysur i ni yn ein colled a'r amser trist yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teyrngedau i Ddug Caeredin i'w gweld ar strydoedd Caerdydd ddydd Gwener

Mae manylion am angladd y Dug, fydd yn cael ei gynnal ar 17 Ebrill, wedi cael eu rhyddhau hefyd.

Bydd yn cael ei chynnal yng Nghapel St George yn Windsor, ond bydd y trefniadau yn wahanol i'r arfer oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 sydd mewn lle.

Ni fydd yn angladd gwladol ac ni fydd yn gorwedd yn gyhoeddus, yn ôl dymuniadau'r Dug.

Mae'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr angladd - oedd yn cynnwys 800 o westeion - bellach wedi eu haddasu i gyd-fynd â chyfyngiadau coronafeirws, a 30 o bobl fydd yn cael bod yn bresennol.

Mae'r cyhoedd wedi cael cais i beidio â mynychu'r angladd oherwydd y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd fflagiau'r Senedd yn hedfan ar eu hanner nes ar ôl angladd Dug Caeredin

Disgrifiad o’r llun,

Roedd fflagiau Castell Caernarfon hefyd yn hedfan ar eu hanner ddydd Sadwrn

Yn dilyn marwolaeth Dug Caeredin yn 99 oed ddydd Gwener mae nifer o Gymry blaenllaw wedi rhoi teyrnged iddo.

Mae'r prif bleidiau yng Nghymru oll wedi dweud y byddan nhw'n atal eu hymgyrchoedd etholiad am y tro.

Fe fydd Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Fae Caerdydd fore Llun ar gyfer sesiwn arbennig i roi teyrnged i'r Dug.

Mae baneri swyddogol ar holl adeiladau'r llywodraeth wedi'u gostwng i hanner mast - adeiladau fel y Senedd yn y Bae, Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd - ac fe fyddan nhw'n aros felly tan 08:00 y bore wedi'r angladd.

Mae llyfr o gydymdeimlad ar gael ar wefan y Teulu Brenhinol i unrhyw un sy'n dymuno mynegi eu cydymdeimlad.