'Angen edrych ar opsiynau amgen i garchardai yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Carchar Berwyn yn WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe ddylai Cymru edrych ar opsiynau "credadwy" eraill i garchardai, yn ôl astudiaeth newydd.

Dywedodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fod gan Gymru un o'r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop.

Bydd unrhyw beth llai na datganoli llawn o gyfiawnder troseddol, medden nhw, yn cyfyngu ar allu Cymru i ostwng y cyfraddau carcharu.

Mae Comisiwn ar Gyfiawnder yn adolygu'r system gyfiawnder yma ar hyn o bryd.

Yn ôl Robert Jones o'r Ganolfan, mae gwledydd eraill yn "cynnig enghreifftiau pwerus o'r hyn y gallai Cymru fod pe bai ewyllys wleidyddol a strwythurau cyfansoddiadol ein cenedl yn alinio'n wahanol".

Mae'r adroddiad diweddaraf yn dweud fod heddlu, erlynwyr, llysoedd, profiannaeth (probation) a gwasanaethau carchardai angen cydweithio ar strategaeth genedlaethol.

'Cyfle enfawr'

Mae ymchwilwyr wedi bod yn edrych ar wledydd fel Portiwgal a'r Ffindir, ac ar dalaith Texas yn America.

Dywedodd Dr Jones: "Mae ein hymchwil i sut mae gwledydd eraill wedi mynd i'r afael â'u cyfraddau carcharu uchel yn dangos bod dewisiadau amgen hyfyw i gyfnod dan glo.

"Mae cyfle enfawr i lunwyr polisi feddwl yn gyfannol am rôl y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru."

Dywedodd bod angen "sgwrs genedlaethol" yng Nghymru am y gyfradd garcharu, gyda chonsensws trawsbleidiol yn sgil "y costau sylweddol iawn" dan sylw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carchar Berwyn Wrecsam yn un o'r rhai mwyaf yn Ewrop, ac yn gallu dal 2,100 o garcharorion

Daeth adroddiad cynharach y Ganolfan, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, i'r casgliad fod cyfraddau dalfa ar gyfartaledd yma'n uwch nag yn Lloegr ar gyfer nifer o wahanol grwpiau a throseddau.

Yn benodol, mae carcharorion sy'n Gymry a ddim yn wyn yn cael eu gorgynrychioli yn y carchar.

Ar hyn o bryd, mae tua 5,000 o garcharorion dan glo yng Nghymru.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Leanne Wood, sy'n gyn-swyddog prawf, fod cael y gyfradd garcharu ar gyfartaledd uchaf yng ngorllewin Ewrop yn "rhywbeth allwn ni ei wneud hebddo yng Nghymru".

Yn ôl llefarydd polisi troseddol a chyfiawnder Ceidwadwyr Cymru, Mark Isherwood AC, mae'r carchar yn dal i fod yn ffordd "hanfodol" o atal troseddu ac "mae'n bwysig bod ymdrechion i wanhau effaith carchar, fel rhoi'r hawl i garcharorion bleidleisio, ddim yn cael ei ddeddfu".

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt: "Er bod cyfiawnder yn parhau i fod yn fater heb ei ddatganoli, rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i sicrhau ein bod gyda'n gilydd yn darparu'r atebion gorau posibl i droseddwyr yng Nghymru."