Y Gynghrair Genedlaethol: AFC Fylde 3-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Doedd gôl gan Jason Oswell ddim yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Wrecsam
Fe ildiodd Wrecsam y fantais ddwywaith wrth iddyn nhw golli oddi gartref yn Fylde nos Fawrth.
Jake Lawlor ac yna cyn-ymosodwr Y Drenewydd, Jason Oswell, roddodd y Dreigiau ar y blaen.
Ond fe sgoriodd Fylde ddwywaith mewn 10 munud yn yr ail hanner i sicrhau'r triphwynt.
Dydy Wrecsam bellach heb ennill mewn wyth gêm.
Mae'r canlyniad yn gadael tîm Bryan Hughes yn yr 21ain safle, ymysg safleoedd y cwymp.