Erin Mai fydd cystadleuydd Cymru i Junior Eurovision
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi dewis cantores ifanc i gystadlu yng nghystadleuaeth Junior Eurovision.
Erin Mai, sy'n 13 oed ac yn dod o Lanrwst, yw enillydd y gyfres deledu, Chwilio am Seren, a bydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan Junior Eurovision yn Gliwice, Gwlad Pwyl ym mis Tachwedd.
Cafodd Erin ei dewis drwy bleidlais gyhoeddus fyw mewn noson yn Venue Cymru, Llandudno, nos Fawrth.
Dechreuodd y broses o ddewis cynrychiolydd Cymru gyda chyfres o glyweliadau o gwmpas y wlad, cyn i banel o fentoriaid - Connie Fisher, Lloyd Macey a Tara Bethan - ddewis 20 i ymddangos mewn pedair rhaglen deledu ar S4C.
Roedd Erin yn un o chwe pherfformiwr yn y rownd derfynol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Erin: "Nes i 'rioed feddwl y byswn i'n ennill Chwilio am Seren Junior Eurovision!
"Mae pawb sydd wedi cystadlu ar y llwyfan heno mor ardderchog. Diolch yn fawr iawn i bawb am yr holl gefnogaeth, i Tara ac i bawb o Lanrwst! Dwi methu aros i gael cynrychioli Cymru yng Ngwlad Pwyl."
Eleni yw'r ail dro i Gymru gymryd rhan yn Junior Eurovision, a bydd 18 o wledydd eraill yn cystadlu am y brif wobr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018