Slofacia v Cymru: Protestio gwaharddiad 'anghyfiawn' UEFA
- Cyhoeddwyd
Mae un o gefnogwyr pybyr tîm pêl-droed Cymru wedi ysgrifennu at UEFA yn protestio yn erbyn y penderfyniad i chwarae'r gêm ragbrofol rhwng Slofacia a Chymru mewn stadiwm wag.
Mae cefnogwyr wedi eu gwahardd rhag mynychu'r gêm ym mis Hydref fel cosb am ymddygiad diweddar rai o gefnogwyr Slofacia yn ystod gêm yn erbyn Hwngari.
Yn sgil y gwaharddiad, mae sawl cefnogwr Cymru'n anhapus na fydden nhw'n cael mynychu'r gêm a'u bod ar eu colled yn ariannol ar ôl trefnu trafnidiaeth a gwestai.
Mae Gary Pritchard o Ynys Môn, sydd wedi bod yn dilyn tîm Cymru oddi cartref ers sawl blwyddyn wedi mynegi ei "bryder" am yr "effaith mawr" y byddai'r gwaharddiad yn ei gael ar gefnogwyr Cymru.
Mae UEFA wedi cael cais am ymateb.
'Cefnogwyr dieuog'
"Bydd y gorchymyn i orfodi Slofacia i chwarae eu gêm gartref rhyngwladol nesaf mewn stadiwm wag yn cael effaith mawr ar yr 2,137 cefnogwr Cymru sydd wedi trefnu i deithio i Trnava ar gyfer y gêm.
"Er nad ydw i'n esgusodi ymddygiad hiliol cefnogwyr Slofacia, mae'n rhaid cwestiynu pam y dylai cefnogwyr Cymru, sydd eisoes wedi talu am lety a thrafnidiaeth i Slofacia gael eu cosbi."
Dywedodd Mr Pritchard fod y gwaharddiad yn cosbi cefnogwyr "dieuog" gafodd eu gwobrwyo am ymddwyn gyda "balchder, awch a pharch" yn ystod Euro 2016 yn Ffrainc.
"Rwy'n erfyn arnoch chi i ailystyried gwahardd cefnogwyr Cymru o'r stadiwm, Mae gwahardd cefnogwyr dieuog yn anghyfiawn ac yn llym," meddai yn ei lythyr.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Slofacia wedi datgan eu bwriad i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os fydd yn methu, eu bwriad ydy rhoi tocynnau am ddim i blant dan 14 oed a nifer cyfyngedig o warchodwyr, yn ôl rheolau UEFA.
Nid dyma'r tro cyntaf i UEFA orfodi Cymdeithas Bêl-droed Slofacia i chwarae mewn stadiwm wag.
Digwyddodd yn dilyn gêm yn erbyn Lloegr yn 2003 yn dilyn ymddygiad tebyg gan eu cefnogwyr.
Yn fwy diweddar yn 2018, fe gafodd gêm ryngwladol rhwng Croatia a Lloegr ei chwarae mewn stadiwm wag fel cosb i Gymdeithas Bêl-droed Croatia am ymddygiad hiliol gan eu cefnogwyr.
'Hynod siomedig'
"Yn amlwg dyw gwneud hyn ddim yn rhwystro'r fath ddigwyddiadau rhag digwydd eto," meddai Mr Pritchard wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher.
"Felly mae angen i UEFA feddwl yn ddwys am sut i gosbi cymdeithasau am y fath ymddygiad."
Mewn datganiad dywedodd Cymdeithas bel droed Cymru (CBDC) eu bod yn "hynod siomedig am yr effaith bydd y penderfyniad yn ei gael ar y 2,137 cefnogwr sydd wedi prynu tocyn i'r gêm.
"Mae gan ein cefnogwyr enw ardderchog a dydyn nhw ddim yn haeddu cael eu cosbi'r un ffordd a charfan fechan o gefnogwyr sydd wedi'u cosbi am ei ymddygiad gan UEFA.
"Mae UEFA wedi rhoi gwybod nad oes modd i CBDC apelio yn erbyn y penderfyniad i atal cefnogwyr Cymru rhag mynychu'r stadiwm," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2019