Galw am gynigion i godi melinau gwynt yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Gall ragor o felinau gwynt gael eu hadeiladu oddi ar arfordir gogledd Cymru, wrth i Ystadau'r Goron alw ar gwmnïau i wneud cynigion i ddatblygu'r safle.
Mae'r cynllun yn rhan o bedwar man ar draws Prydain sy'n cael eu cynnig i ddatblygu melinau gwynt, wrth i'r llywodraeth geisio mynd i'r afael â chynnydd lefelau carbon.
Mae'r ardal rhwng dwyrain Ynys Môn a Bae Lerpwl eisoes yn gartref i dros 200 o felinau, ond yn ôl un ymgyrchydd byddai'n protestio i wrthwynebu rhagor.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi ei ddisgrifio fel "cyfle enfawr".
Pe bai'r ceisiadau'n llwyddiannus gallai'r cwmnïau ennill hawliau dros dir gwely'r môr erbyn 2021, gyda melinau gwynt yn weithredol erbyn diwedd y ddegawd nesaf.
Y Deyrnas Unedig sy'n cynhyrchu'r cyfanswm mwyaf o egni drwy felinau gwynt morol ar draws y byd ac yn ôl Ystadau'r Goron mae arfordiroedd y wlad yn cynnig yr amgylchiadau perffaith i ddatblygu mwy, gyda dŵr bas a gwyntoedd cyson.
Pe bai ceisiadau ar draws y pedwar safle Prydeinig yn llwyddo mae potensial i bweru dros chwe miliwn o dai.
'Gwarthus'
Ond nid pawb sy'n cytuno gyda'r syniad.
Pan adeiladwyd 160 o felinau ar safle Gwynt y Môr oddi ar arfordir y gogledd yn 2013 fe brotestiodd John Lawson-Reay yn erbyn y datblygiad.
Yn byw yn Llandudno, fe ddywedodd y gall y grŵp y mae'n rhan ohono - Save our Scenery - ailffurfio i wrthwynebu'r ceisiadau.
"Mae o am effeithio ar ein twristiaeth. Yr hyn da ni'n ei gynnig ydy llefydd prydferth gweledol. Fandaliaeth ydy o," meddai.
"Gallwch chi eu rhoi nhw yng nghanol Môr y Gogledd ond nid yn y fan hyn. Mae'n warthus."
Cyfle am swyddi?
Tra bod Mr Lawson-Reay yn ei wrthwynebu, yn ôl Carwyn Jones o Gyngor Môn mae'n "gyfle gwych".
"Fel Ynys Ynni 'da ni'n croesawu hyn," meddai.
"Os ydy'r Deyrnas Unedig am gyrraedd y targed o allyriadau net zero carbon erbyn 2050 mae rhaid cael ynni gwynt felly 'da ni'n gefnogol.
"Hefyd mae 'na bwysau mawr gan bobl ifanc, a dylwn ni eu cefnogi a gwneud hynny ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Ychwanegodd y gallai'r safle gynnig gwaith i rai o'r ynys a llenwi rhan o'r bwlch ar ôl i gynllun atomfa Wylfa Newydd gael ei ohirio.
Yn ôl Ystadau'r Goron mae cyfle i archwilio unrhyw rai sy'n awyddus i wneud cais a cheisio dod o hyd i ardaloedd a chynigion addas.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017