Cefnogwyr Cymru i gael mynychu gêm Slofacia wedi apêl
- Cyhoeddwyd

Mae gan 2,137 o gefnogwyr Cymru docyn i'r gêm yn Trnava
Bydd cefnogwyr Cymru yn cael mynychu'r stadiwm yn y gêm oddi cartref yn Slofacia wedi'r cwbl, yn dilyn apêl lwyddiannus yn erbyn penderfyniad UEFA i wahardd cefnogwyr.
Roedd UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewrop, wedi cymryd camau disgyblu yn erbyn Slofacia oherwydd ymddygiad eu cefnogwyr yn Hwngari ar 9 Medi.
Roedd y corff wedi cael ei feirniadu'n hallt dros y dyddiau diwethaf oherwydd ei benderfyniad i wahardd cefnogwyr y ddau dîm o'r stadiwm yn Trnava, yn hytrach na chefnogwyr Slofacia yn unig.
Ond dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Iau bod Slofacia wedi llwyddo yn eu hapêl yn erbyn y penderfyniad, oedd hefyd yn cynnwys dirwy o €20,000.

Daniel James sgoriodd yr unig gôl yn y gêm rhwng y ddwy wlad ym mis Mawrth
Bydd Cymru'n herio Slofacia yn stadiwm Antona Malatinského ar nos Iau, 10 Hydref.
Ar hyn o bryd mae Slofacia yn ail yn Grŵp E, tri phwynt ar y blaen i dîm Ryan Giggs, ond mae gan Gymru gêm mewn llaw.
Roedd Cymru yn fuddugol yn y gêm rhwng y ddau dîm yn Stadiwm Dinas Caerdydd 'nôl ym mis Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019
- Cyhoeddwyd25 Medi 2019