Heddlu'n rhybuddio plant wedi digwyddiadau amheus Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni a phlant ysgol yng Ngheredigion wedi cael rhybudd i fod ar eu gwyliadwriaeth wrth gerdded adref o'r ysgol yn dilyn dau ddigwyddiad amheus.
Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiadau o ddau ddigwyddiad ar wahân yn Aberteifi pan ofynnwyd i ddisgyblion fynd i mewn i gar wrth gerdded o'r ysgol yr wythnos hon.
Dywedodd yr heddlu: "Rydyn ni wedi siarad gyda'r ddau blentyn ac ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y cerbydau a'r gyrwyr yn wahanol i'w gilydd."
"Digwyddodd un o'r rhain ger ysgol uwchradd y dref a'r llall yn Llandudoch."
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio ac yn rhybuddio plant a'u rhieni i fod ar eu gwyliadwriaeth.
Cerdded mewn parau
Mae rhieni ar draws y sir wedi derbyn neges gan ysgolion yn cyfleu'r rhybudd gan yr heddlu.
Mae'n dweud: "Atgoffwn ddisgyblion a rhieni i fod yn ymwybodol iawn o'u diogelwch.
"Lle bynnag y bo modd, dylai disgyblion gerdded gyda'i gilydd mewn parau neu mewn grwpiau bach.
"Dylent gerdded adref ar hyd y llwybr sydd fwyaf gweladwy i aelodau eraill o'r cyhoedd, ac os bydd dieithryn yn ceisio cysylltu â hwy dylent gerdded i ardal fwy cyhoeddus a galw am gymorth neu ffonio 999 mewn argyfwng."