£1.4m o nawdd i gwmni wisgi Penderyn ehangu i'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Whisgi PenderynFfynhonnell y llun, Cwmni Penderyn

Mae cynlluniau cwmni wisgi Cymreig i ehangu i'r gogledd gam yn nes wedi i Lywodraeth Cymru gynnig £1.4m o nawdd ar gyfer y datblygiad.

Mae Penderyn, sydd â phencadlys yn Rhondda Cynon Taf, yn gobeithio codi distyllfa a chanolfan ymwelwyr yng nghanol Llandudno.

Os fydd y datblygiad gwerth £5m yn cael caniatâd cynllunio mae'n fwriad i agor yr adeilad newydd erbyn 2021.

Dywedodd prif weithredwr Distyllfa Penderyn, Stephen Davies y bydd "yn atyniad a fydd yn ychwanegu at ddarpariaeth lewyrchus ac amrywiol ar gyfer twristiaid" yn Llandudno ac yn "estyn y tymor ymwelwyr".

Ffynhonnell y llun, Cwmni Penderyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys y cwmni ym Mhenderyn ger Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r cynnig o gefnogaeth gan gronfeydd twristiaeth a busnesau bwyd Llywodraeth Cymru, meddai Mr Davies, yn golygu bod y cwmni'n gallu mynd ati i gwblhau eu cynigion dros y misoedd nesaf, a thrafod gyda phartneriaid a'r gymuned leol wrth baratoi cais cynllunio.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod Penderyn "yn un o frandiau mwyaf eiconig Cymru" a bydd y datblygiad "yn atyniad ychwanegol ar gyfer Llandudno a gogledd Cymru".

"Bydd y ganolfan i ymwelwyr a'r ddistyllfa newydd yn tynnu sylw at gynhyrchion gwych Cymru ac yn ychwanegu at y clwstwr o gynhyrchwyr gwych yng ngogledd Cymru."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Safle hen ysgol a hen orsaf yr RNLI fyddai cartref y distyllfa a chanolfan ymwelwyr

Mae cynigion cwmni Penderyn ar gyfer Llandudno yn rhai "cyffrous iawn", yn ôl y Cynghorydd Goronwy Edwards - yr aelod o gabinet Cyngor Conwy sy'n arwain ar faterion datblygu economaidd.

"Rydym wedi bod yn cydweithio â nhw fel rhan o'n Strategaeth Twf Economaidd, sy'n anelu at ddenu rhagor o atyniadau i'r sir sy'n addas gyfer pob tywydd ac sy'n agored drwy'r flwyddyn," dywedodd.

"Mae'r ffaith y bydd swyddi newydd yn cael eu creu ac y bydd atyniad newydd i ymwelwyr yn golygu dyfodol llewyrchus i'r Hen Ysgol ar Stryd Lloyd."

Roedd yr adeilad yn gartref i orsaf yr RNLI tan 2017.

Mae cwmni Penderyn hefyd â chynlluniau i godi distyllfa a chanolfan ymwelwyr ar hen safle Gwaith Copr Hafod Morfa yn Abertawe.