Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Ebbsfleet
- Cyhoeddwyd
Gôl gampus gan yr eilydd Paul Rutherford yn yr ail hanner wnaeth sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam dros dîm arall sydd hefyd yn cael tymor heriol.
Hon oedd gêm gyntaf y Dreigiau ers i'r clwb ddiswyddo Bryan Hughes fel rheolwr ddydd Iau a phenodi Brian Flynn fel rheolwr dros dro.
Methodd Wrecsam gyfle i sgorio ar ôl cael cic o'r smotyn wedi trosedd yn erbyn Shaun Pearson ond fe wnaeth golwg Ebbsfleet, Jordan Holmes, arbed ergyd Bobby Grant.
Ond yna fe sgoriodd Rutherford i ddod â rhediad o wyth gêm heb fuddugoliaeth i ben.
Fe ddechreuodd Wrecsam y penwythnos yn safleoedd y cwymp yn y Gynghrair Genedlaethol ond wedi canlyniad ddydd Sadwrn maen nhw bellach wedi codi i'r 20fed safle.
Dywedodd Flynn wedi'r gêm bod perfformiad y tîm wedi ei bleisio, yn enwedig yr amddiffyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019