Bryan Hughes yn gadael fel rheolwr Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Bryan HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bryan Hughes wedi bod yn y rôl ers mis Chwefror eleni

Mae Bryan Hughes wedi gadael ei rôl fel rheolwr Wrecsam yn dilyn rhediad trychinebus.

Bydd yr is-hyfforddwr a chyn-reolwr Wrecsam, Brian Flynn yn cymryd yr awenau am y tro, meddai'r clwb.

Fe wnaeth Hughes, cyn-chwaraewr canol cae Wrecsam, olynu Graham Barrow ym mis Chwefror eleni.

Llwyddodd i gadw Wrecsam yn safleoedd y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, ond cafodd y clwb eu trechu gan Eastleigh yn y rownd gynderfynol.

Ond mae'r Dreigiau wedi cael dechrau gwael i'r tymor, ac maen nhw yn safleoedd y cwymp yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Mae'r clwb ar rediad o wyth gêm gynghrair heb fuddugoliaeth.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Fe ail-ymunodd Brian Flynn â Wrecsam fel is-hyfforddwr ym mis Chwefror eleni

Dywedodd Clwb Pêl-droed Wrecsam bod y penderfyniad wedi'i wneud yn dilyn trafodaethau rhwng Hughes a'r bwrdd.

"Yn dilyn y trafodaethau hynny fe wnaeth pawb gytuno bod angen newid," meddai'r clwb mewn datganiad.

"Y penderfyniad felly yw bod Bryan wedi gadael ei rôl fel rheolwr y tîm cyntaf."

Mae gêm nesaf Wrecsam yn erbyn Ebbsfleet ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.