'Diffyg adnoddau' gwasanaethau anhwylder bwyta Cymru

  • Cyhoeddwyd
Emily Hoskins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily Hoskins, 22 oed o Abertyleri wedi bod yn dioddef o anorecsia ers yn 13 oed.

Mae adroddiad arbenigol yn dangos fod "diffyg adnoddau sylweddol" yng ngwasanaethau anhwylderau bwyta Cymru.

Mewn adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, dywedodd y Seiciatrydd Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Dr Jacinta Tan fod angen "ailstrwythuriad mawr".

Mae Dr Tan yn galw am fuddsoddiad i sicrhau bod anhwylderau bwyta'n cael ei adnabod yn gynnar, cyn i bobl fynd yn ddifrifol wael.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn dweud y byddai'n sicrhau bod y gwasanaethau yn cael ei "siapio yn sgil yr argymhellion."

'Darpariaethau bratiog'

Mae Emily Hoskins, 22 oed o Abertyleri wedi bod yn dioddef o anorecsia ers yn 13 oed.

Fe roddodd hi dystiolaeth yn yr adolygiad ac mae hi'n credu bod angen cael mynediad at therapy yn agosach at adref.

"Roeddwn yn colli'r cyfathrebu gyda'r bywyd tu fas oherwydd doeddwn i methu a gwneud dim arall oherwydd yn anhwylder bwyta.

"Roedd yr adolygiad yn cymryd hir i gyrraedd. O'r diagnosis cychwynnol, roeddwn wastad yn meddwl fod ffordd well i ddarparu'r math yma o wasanaethau, a pan nes i ddarganfod bod adolygiad yn digwydd, roedd hynny'n bwysig iawn i mi," meddai.

Ychwanegodd: "Ble bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru, un peth ddwedes i wrth yr adolygiad yw y dylai pawb gael eu trin yr un fath, ac ein bod i gyd yn ei gweld hi'n anodd gyda'r un math o salwch, ac fe ddylai'r gefnogaeth fod yno i bawb.

"Ni ddylid un peth gael ei gynnig un funud a phum munud yn lawr y ffordd mae rhywbeth gwahanol yn cael ei gynnig i berson arall," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Tan yn credu byddai'n costio £9m y flwyddyn i gyflawni ei hargymhellion

Dywedodd Dr Tan wrth raglen Wales Live nad oedd digon o bobl yn cael eu gweld ddigon cynnar.

"Y neges y mae'r rhan fwyaf o gleifion yn clywed yw nad ydyn nhw ddigon sâl i haeddu triniaeth gan glinigwr anhwylder bwyta, ac mae hynny'n anerbyniol.

"Mae ymchwil yn dangos, yr hiraf mae claf yn mynd heb help gan arbenigwr yr anoddaf fydd hi iddyn nhw wella," meddai.

Fe gafodd yr adolygiad ei gwblhau ym mis Tachwedd 2018 ac mae newydd gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Disgrifiad,

Bethan Sayed AC sy'n cadeirio grŵp traws pleidiol ar anhwylderau bwyta

Mae Dr Tan yn dweud bod "darpariaethau bratiog" o ran gwahanol driniaethau ar draws Cymru.

Nid yw'r adolygiad yn galw am uned arbenigol i gleifion mewnol i gael ei sefydlu yng Nghymru, ond mae hi'n dweud dylai hyn gael ei adolygu o fewn pum mlynedd.

Mae Dr Tan yn credu byddai'n costio £9m y flwyddyn i gyflawni ei hargymhellion, ac byddai hefyd yn golygu cynnydd sylweddol mewn staffio.

Yn ôl Dr Tan yn dweud fod "achos cryf am fuddsoddiad sylweddol" ac mae'n galw am:

  • Amser aros o wythnos rhwng yr amser mae claf yn cael ei gyfeirio a'i drin ar gyfer achosion brys, a phedair wythnos ar gyfer eraill;

  • Trefn cyfeirio symlach;

  • Gwella hyfforddiant meddygon teulu i'r ffordd maen nhw'n adnabod, asesu a thrin anhwylderau bwyta;

  • Derbyn "cyfeiriadau gan gleifion", heb ymyrraeth meddyg teulu;

  • Creu system i sicrhau fod pobl ifanc yn cael mynediad at gymorth yn gynnar.

Disgrifiad o’r llun,

Mae y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi ysgrifennu at yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn gofyn am eu barn ar yr argymhellion

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Mr Gething wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd yn gofyn iddyn nhw am eu barn ar yr argymhellion.

Mae byrddau iechyd wedi derbyn £700,00 i wneud gwelliannau eleni, gyda £1m ychwanegol yn cael ei ddarparu y flwyddyn nesaf.

Yn y llythyr mae Mr Gething gofyn i'r byrddau "ailstrwythuro gwasanaethau ar gyfer ymyrraeth gynharach" ac i "ddatblygu cynlluniau" i gwrdd â'r targed aros o bedair wythnos, ond ni fydd amseroedd aros ffurfiol cenedlaethol yn cael ei gosod "ar hyn o bryd."

Mis diwethaf, fe wnaeth nifer o bobl sy'n dioddef o anhwylderau bwyta roi tystiolaeth i adolygiad, ynghyd ag ymgyrchwyr a gwleidyddion wnaeth ysgrifennu at Mr Gething yn datgan eu "pryder" am y diffyg gweithredu wedi i'r adroddiad gael ei gwblhau.

'Gweithredu'

Dywedodd Bethan Sayed AC, sy'n cadeirio grŵp traws bleidiol ar anhwylderau bwyta ei bod hi'n "croesawu'r ffaith fod Vaughan Gething wedi bod yn gefnogol yn ei lythyr."

"Mae llythyr yn un peth ond mae gweithredu'n rhywbeth arall. Pan fydd Vaughan Gething yn cael ymatebion nôl, dwi'n disgwyl gweithredu wedyn," meddai.

Ychwanegodd: "Wedi siarad efo nifer o'r teuluoedd, dwi yn credu fod 'na resymeg i gael rhyw fath o uned i uned i anhwylderau bwyta yn benodol oherwydd bod nifer o bobl yn gorfod mynd i Loegr i gael triniaeth, maen nhw'n bell i ffwrdd o'u teuluoedd.

"Falle mewn pum mlynedd pan fydd adolygiad arall, bydd symud ble na fydd angen uned ond dwi'n credu yn fy ngreddf fod angen rhyw fath o uned yma yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr adolygiad yn un sylweddol a bod angen edrych arno'n fanwl gan gynnwys trafod gyda chlinigwyr i brofi'r argymhellion pwysicaf.

"Rydym wedi llunio'r cynlluniau tymor byr a byddwn yn parhau i weithio gyda'r Byrddau Iechyd, clinigwyr a chleifion i sicrhau bod gwasanaethau yng Nghymru yn symud ymlaen gyda gweledigaeth yr adolygiad."