Clychau cloc yn gorfod tawelu am hanner nos

  • Cyhoeddwyd
clocFfynhonnell y llun, Geograph / Nick MacNeill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd clychau'r cloc yn amharu ar gwsg rhai ymwelwyr

Bydd taw ar glychau'r Drenewydd ar ôl cwynion eu bod yn amharu ar gwsg pobl sy'n aros mewn gwestyau cyfagos.

Yn ôl Maer y Drenewydd David Selby mae gwestyau wedi derbyn ymateb anffafriol ar y we.

Cytunodd cynghorwyr na ddylai'r cloc ganu rhwng hanner nos a 06:00.

Fe gafodd y cloc ei roi i bobl y Drenewydd yn 1900, ac mae rhai wedi anghytuno gyda'r penderfyniad.

Yn y cyfamser mae busnesau lleol wedi cytuno i dalu £3,000 ar gyfer offer fydd yn addasu'r cloc fel nad yw'n canu bob chwarter awr fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Dywedodd Tina Lovatt, sy'n cadw gwesty gwely a brecwast, fod cwsmeriaid wedi bod yn cwyno er ei bod hi wedi gosod ffenestri newydd trwchus ac offer rhwystro sŵn.

Roedd un ymwelydd â'r dre wedi dweud ar safle TripAdvisor ei fod wedi cael profiad ofnadwy a gadael diwrnod yn gynnar oherwydd "sŵn afresymol o gloc y dre sy'n canu bob 15 munud 24 awr y dydd".