Cam-drin cŵn: Galw am ymchwilio i filfeddygon

  • Cyhoeddwyd
Yn ystod ffilmio cudd daeth rhaglen BBC Wales Investigates o hyd i gŵn mewn amodau difrifol
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod ffilmio cudd daeth rhaglen BBC Wales Investigates o hyd i gŵn mewn amodau difrifol

Mae galwadau am ymchwilio i filfeddygon am eu rhan yn y diwydiant bridio cŵn yng Nghymru.

Yn ystod cyfnod o flwyddyn, mae rhaglen Wales Investigates wedi dod ar draws cŵn sy'n byw mewn amgylchiadau "brwnt" mewn sefydliadau sydd wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorau.

Canfuwyd bod rhai bridwyr yn parhau i gael trwyddedau er bod eu cŵn yn dioddef o "gyflyrau iechyd difrifol".

Ond dywedodd panel arbenigol wrth BBC Cymru bod safonau rhai milfeddygon wedi "llithro" a'u bod yn "rhan o system sydd wedi torri".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu'r rheolau a'u bod yn "poeni'n fawr" am adroddiadau o beidio cydymffurfio.

Mae gwerthu cŵn yn fusnes mawr yng Nghymru gydag ymchwil yn dangos bod 260 o fridwyr cŵn trwyddedig yn Awst 2019 - a bod 24,000 o gŵn bach yn cael eu geni bob blwyddyn.

Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn dweud bod yn rhaid i unrhyw fridiwr ci, sy'n cael tair torraid neu fwy y flwyddyn, gael trwydded gan y cyngor lleol.

Ond yn ystod ymweliadau â safleoedd oedd wedi'u cymeradwyo, daeth BBC Cymru ar draws cŵn yn dioddef o heintiau.

Yn ogystal roedd yr amodau byw yn wael a doedd y cŵn ddim yn cael llawer o ymarfer corff.

Mae archwiliadau milfeddygol blynyddol, sydd wedi cael eu gweld gan y BBC, yn nodi bod nifer o gŵn yn dioddef o gyflyrau iechyd difrifol mewn safleoedd trwyddedig ond roedd bridwyr yn cael parhau i fridio.

Ffynhonnell y llun, Danielle Foley
Disgrifiad o’r llun,

Winston, ci bach a brynwyd gan Danielle Foley

Mae'r panel arbenigol yn honni bod milfeddygon Aeron Vets ddim yn cwestiynu'r amodau roedd cŵn yn cael eu cadw ynddynt, er bod rhestr hir o anifeiliad â phroblemau iechyd.

Mae'r panel yn dweud bod anifeiliaid wedi eu darganfod gyda phroblemau croen, systiau a phroblemau llygaid.

Ond er hynny roedd y bridwyr yn dal i gael trwyddedau, ac ni wnaeth y milfeddygon adrodd unrhyw bryderon.

Dywedodd Aeron Vets bod rhaid parchu cyfrinachedd, ond y byddai'n "cymryd unrhyw gamau posib" os oedd yn amau bod problemau.

'Marwolaeth araf a phoenus'

Roedd Danielle Foley angen cwmni i'w chi a daeth o hyd i Winston a oedd yn cael ei werthu gan fridiwr trwyddedig yn Sir Caerfyrddin.

Dywedodd Ms Foley: "Roedd e'n cael enw o fod yn fridiwr da ac roedd ganddo wefan ei hun.

"Ar waelod ei gartref roedd yna dŷ haf ac yno yr oedd dau gi bach."

Ond doedd Ms Foley ddim wedi cael y stori'n llawn.

Yng nghartref y bridiwr ger Cydweli daeth BBC Wales Investigates o hyd i sied yn llawn o gŵn bridio a'u cŵn bach.

Dangosodd archwiliad yn gynharach eleni bod fferm y bridiwr wedi wynebu trafferthion cysylltiedig â gwastraff, cadw cofnod a feirws hynod o heintus.

Dangosodd adroddiad bod y perchennog hefyd wedi cicio ci tra'r oedd arolygwyr yn bresennol.

Ddiwrnod wedi i'r ci newydd ymgartrefu yng nghartref Ms Foley roedd e'n wan ac wedi iddi ei fynd at y milfeddyg canfuwyd ei fod yn dioddef o feirws a bu'n rhaid ei ddifa.

Ffynhonnell y llun, Danielle Foley
Disgrifiad o’r llun,

Danielle Foley a Winston wedi iddo fynd yn sâl

Dywed Ms Foley bod y dyn a werthodd Winston iddi wedi dweud fod y ci wedi cael ei frechu rhag y feirws.

Dywed hefyd fod y bridiwr wedi dweud wrthi, wedi iddi ofyn am adroddiad iechyd y ci, ei fod ef ei hun wedi brechu'r ci gyda moddion a brynodd gan y milfeddyg.

Os nad yw ci wedi cael ei weld gan y milfeddyg yn gyntaf mae brechu y ci eich hun yn anghyfreithlon.

Dywed Coleg Brenhinol y Milfeddygon y dylai milfeddyg gael golwg ar gi er mwyn sicrhau ei fod yn iawn ar gyfer cael ei frechu.

Dywed milfeddygon fferm y bridiwr eu bod yn cynnal ymchwiliad.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Olwyn ei rhoi i dîm y BBC

Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin dywedodd llefarydd y byddai'r cyngor yn erlyn unrhyw un sy'n torri'r rheolau.

Mewn datganiad dywedodd cyfreithiwr ar ran y bridiwr wnaeth werthu'r ci a fu farw bod "unrhyw gyfeiriad at greulondeb i unrhyw anifail yn cael ei wadu" ac ychwanegodd bod pobl broffesiynol yn delio â honiadau am ledu feirws.

"Mae gan y bridiwr hanes da o fewn ei gymuned a'r diwydiant," meddai.

'Ci marw'

Yn gynharach eleni cafodd gast fridio o fferm yn Llandysul ei rhoi i dîm y BBC.

Pan brynwyd yr ast doedd ganddi ddim enw, dim hanes meddygol a doedd dim gwaith papur yn gysylltiedig â hi.

Pan welodd milfeddyg hi, roedd hi newydd eni a chanfuwyd bod ci marw y tu mewn iddi a bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth frys.

Disgrifiad o’r llun,

Cŵn a ganfuwyd ar fferm yn Sir Gâr

Roedd David Jones, a roddodd y ci i newyddiadurwyr, eisoes wedi cael rhybudd gan Cyngor Sir Ceredigion, am ei ddiffyg gofal o'r cŵn ond roedd y cyngor wedi bod yn adnewyddu ei drwydded yn gyson.

Mewn datganiad dywedodd Mr Jones bod ei fusnes bridio cŵn yn cael ei reoleiddio gan Gyngor Sir Ceredigion er mwyn sicrhau "y safonau gorau posib".

Mae'r Cyngor Sir wedi cadarnhau bod Mr Jones bellach wedi cyflwyno gwelliannau.

'Ddim yn iawn'

Wedi blwyddyn o ffilmio dangosodd y BBC eu darganfyddiadau i banel o arbenigwyr.

Dywedodd Paula Boyden, cyfarwyddwr milfeddygol y Dogs Trust: "Mae'n hynod o drist gweld faint o gŵn sy'n cael eu bridio mewn pob math o amgylchedd.

"Dyw e ddim yn iawn ac mae milfeddygon yn rhan o'r hyn sy'n digwydd. Mae gennym ni fel proffesiwn gyfraniad pwysig."

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno cyfraith a fyddai'n gwahardd trydydd parti i werthu cŵn a chathod ond dywed milfeddygon, er y gallai hynny fod yn ddefnyddiol, bod rhaid yn gyntaf delio â materion cyfreithiol presennol.

Bydd BBC Wales Investigates Inside the UK's Puppy Farm Capital ar BBC One Wales, nos Lun 30 Medi am 20:30 ac ar BBC iPlayer.