Diwydiant cyhoeddi Cymru 'yn ddigon cryf'
- Cyhoeddwyd
Mae'r diwydiant cyhoeddi Cymraeg yn gadarn er gwaethaf penderfyniad Gomer i gau ei adain cyhoeddi, yn ôl pennaeth Cyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd Helgard Krausse nad oedd dewis Gomer i ganolbwyntio ar argraffu yn arwydd o wendid.
Doedd Gomer ddim am wneud sylw pellach wedi i'r cwmni gadarnhau fis diwethaf bydd yr adain gyhoeddi yn cau yn dilyn ystyriaeth "fanwl" i gyfeiriad y cwmni.
Penderfyniad y teulu sy'n rhedeg Gomer oedd cau'r adain, yn ôl Ms Krausse.
Dwedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Wrth gwrs mae'n hynod o drist i weld cwmni sydd wedi bodoli am gyfnod mor hir, ac sydd wedi cyhoeddi'r awduron pwysicaf, yn penderfynu cau yr ochr cyhoeddi.
"Ond mae hwn yn digwydd mewn busnesau teuluol, ble efallai dydy'r genhedlaeth newydd ddim eisiau dilyn yr un sydd wedi bod."
Sefydlwyd Gomer yn Llandysul yn 1892 gan JD Lewis fel cwmni argraffu, gyda'r wasg yn dilyn yn 1908. Yr un teulu sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg y cwmni hyd heddiw.
Cafodd rhai o awduron amlycaf Cymru eu cyhoeddi gan Gomer, gan gynnwys T. Llew Jones ac Islwyn Ffowc Elis.
Mae Gomer wedi derbyn nawdd cyson gan Gyngor Llyfrau Cymru i gyhoeddi cyfrolau Cymraeg a Saesneg, ac mae'r wasg wedi bod ymhlith y cwmnïau i dderbyn y grantiau mwyaf.
Yn y flwyddyn ariannol 2018/2019 fe dderbyniodd Gomer grantiau gwerth £48,198 am lyfrau Cymraeg a £56,565 i gyhoeddi llyfrau Saesneg, yn ôl cyfrifon y Cyngor Llyfrau.
Mae'r cwmni wedi addo cyhoeddi'r holl lyfrau sydd ar y gweill cyn cau'r adain gyhoeddi.
Mi fydd y Cyngor Llyfrau nawr yn annog cwmnïau eraill i gystadlu am yr arian yma yn y dyfodol, fel rhan o'r broses arferol o ddosbarthu nawdd i gyhoeddwyr.
Diwydiant deinamig
Rhan flaenllaw'r wasg ym mywyd diwylliannol Cymru sydd wedi creu argraff ei bod yn sefydliad cenedlaethol, yn ôl Helgard Krausse, ond rhaid cofio mai cwmni preifat ydy Gomer a phenderfyniad busnes sy' tu ôl i'r newidiadau.
"Oherwydd y rôl maen nhw wedi chwarae yn y diwydiant, mae pobl yn meddwl am Gomer fel sefydliad cyhoeddus neu genedlaethol, bron. Ond busnes teuluol ydy Gomer. Felly mae'n drist ond dwi ddim yn meddwl fod hwn yn rhyw fath o caneri yn y mine o gwbl.
"Dwi'n meddwl mai eisiau edrych ar y rhesymau a hefyd cofio bod lot o amrywiaeth yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
"Dwi'n teimlo bod y diwydiant yn eithaf deinamig, i fod yn onest."
Mae gweisg eraill wedi cefnogi'r ddadl bod hi'n ddiwydiant sefydlog, er bod datganiad Gomer yn annisgwyl.
"Ges i sioc, do, yn bendant," meddai Aeron Jones, rheolwr Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.
"Do'n i ddim yn gwybod dim tan weles i'r newyddion ar y teledu.
"Maen nhw'n gwmni o safon a dweud y gwir. Maen nhw wedi bod yn cynhyrchu llyfrau am flynyddoedd, ac yn llyfrau da hefyd."
Mae Gwasg y Bwthyn yn gwmni cyhoeddi ac argraffu, ac yn derbyn nawdd y Cyngor Llyfrau i gefnogi'r gwaith.
Ond yn ôl Aeron Jones, dydy'r ffaith fod y gweisg yn derbyn nawdd ddim yn osgoi'r angen i hyrwyddo a gwerthu digon o gopïau.
"Pan 'da chi yn cynhyrchu llyfr yn y Gymraeg mae gwerthiant o 1,000 yn wych. Ond pan 'da chi yn cysidro bod 3 miliwn o boblogaeth yng Nghymru a 300,000 i 400,000 yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a'ch bod chi yn gwerthu 1,000 o lyfrau - dydy nhw ddim yn ffigyrau mawr.
Marchnad fach
"Mae'n rhaid i ni werthu rhyw 500 i 600 i neud yn saff bod ein costau ni wedi talu amdan, ac mae gennom ni ambell un sydd wedi gwerthu 2,500 ond mae hwnnw yn anomaly o'r arfer."
Er bod heriau amlwg i hyrwyddo a gwerthu llyfrau Cymraeg, mae Aeron Jones yn dweud bod y gweisg wedi buddsoddi ac addasu i sicrhau bod llyfrau o safon yn cyrraedd y farchnad.
"Da ni wedi gorfod newid yn sydyn iawn," meddai, "roedd yna lot o hen beiriannau gyda ni, a da ni wedi buddsoddi mewn peiriannau newydd yma er mwyn gwella safon y gwasanaeth da ni yn cynnig, ac er mwyn rhoi trawstoriad o wasanaethau eraill."
"Y peth pwysicaf efo cynhyrchu llyfrau ydy bod nhw yn atyniadol i bobl allan fanna i ddarllen.
"Y peth gwaethaf fedrith rhywun gwneud ydy cynhyrchu llyfr does 'na neb am brynu."
Llenyddiaeth y dyfodol
Yn ddiweddar mae cylchgronau newydd a gwasanaethau digidol wedi dechrau derbyn nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Mae Helgard Krausse yn gweld hyn fel cam positif, ynghyd ag ymdrechion y gweisg i gynnig amrywiaeth o lyfrau.
"Os 'da chi'n edrych ar gwmni fel Y Lolfa, er enghraifft, maen nhw wedi ehangu'r rhaglen.
"Fe gawson nhw lwyddiant mawr gyda'r llyfr Teach Your Dog Welsh ac mae 'da nhw archeb fawr wedi dod o Seland Newydd ar gyfer Teach Your Dog Maori. Felly dwi'n meddwl bod yna enghreifftiau da iawn.
"A hefyd ar yr ochr Gymraeg, os da chi'n meddwl am Barddas sydd yn cyhoeddi llyfrau nawr.
"Mae 'na lot o bethau yn digwydd, ac mae pethau yn shifftio, achos mae cwmnïau yn dechrau, ac mae rhai eraill yn cau. Dyna beth sydd yn digwydd mewn unrhyw ddiwydiant.
"Ond dwi'n meddwl bod y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ddigon cryf i roi lle i gwmnïau i newid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017