Bod yn Nain: "Yr hwyl heb y cyfrifoldeb..."
- Cyhoeddwyd
Mae Dydd Sul 6 Hydref yn Ddydd Cenedlaethol y Neiniau a'r Teidiau.
A hithau ag wyres ac ŵyr ifanc, dyma'r awdur a'r cyfieithydd Meg Elis yn siarad am sut beth yw hi i fod yn nain, ac yn tybio pa mor wahanol fydd bod yn nain i Sioned, sy'n byw'n lleol, a Dylan, sydd draw yn yr Almaen.
'Gobeithio cewch chi blant!'
Roeddwn i'n golygu hyn fel melltith, flynyddoedd yn ôl ar ôl i 'mhlant fy hun fod yn arbennig o anystywallt, a'r gosb waethaf y gallwn i ddychmygu ar eu cyfer oedd iddyn nhw deimlo'r un fath ag yr oeddwn i'n teimlo bryd hynny.
Buan iawn y pasiodd y teimlad, diolch byth, ac mi aeth tipyn o amser heibio cyn i'r un o'm tri phlentyn wireddu'r felltith neu'r freuddwyd honno.
Erbyn hyn, mae un o'm merched yn fam, a fy mab yn dad. (Ci sydd gan y ferch arall a'i gŵr, a faswn i ddim yn tyngu nad ydi hynny'n fwy o gost a thrafferth...)
Ond ydi, mae bod yn nain yn wahanol iawn i fod yn fam, a taswn i am fendithio unrhyw un rŵan, y dymuniad fuasai 'Gobeithio cewch chi wyrion'.
Yr hwyl heb y cyfrifoldeb...
Mae'r holl ystrydebau'n wir, wrth gwrs: yr hwyl heb y cyfrifoldeb; bod yn hŷn ac yn fwy profiadol yn eich gwneud yn llai pryderus a mwy hamddenol; ac, wrth gwrs, y fendith fwyaf, sef y ffaith eich bod chi'n medru eu rhoi nhw'n ôl i'w rhieni ar ddiwedd y dydd.
A tydw i ddim yn amau nad ydi'r wyrion neu'r wyresau yn medru synhwyro hyn hefyd, ac o'r herwydd yn ymlacio fwy ym mhresenoldeb Nain neu Taid.
Nain i un fûm i am flynyddoedd, ac er bod yna dwtsh o chwithdod weithiau pan fyddai pobl yn gofyn "A faint sydd gynnoch chi?" ar ôl iddyn nhw restru eu bagad hwy o wyrion ac wyresau, roeddwn i'n ffodus iawn o gael y teulu'n byw'n agos.
Rydw i felly yn medru bod yn dyst i bob cam, bron, yn natblygiad Sioned fach. Y geiriau cynta', y cropian, y cerdded, yr Ysgol Feithrin, yr ysgol...
Ac yna, ddechrau eleni, dyma Dylan yn cael ei eni.
Yn nain am yr eildro
Y prif deimlad oedd nid fy mod i rŵan yn medru brolio am fwy nac un - ddim o gwbl. Ddim yn gymaint chwaith am y bwlch o 10 mlynedd a mwy rhwng Sioned a'i chefnder.
A wnes i ddim myfyrio cymaint â hynny ynghylch a oes gan Nain wahaniaeth teimladau ynghylch plentyn i ferch a phlentyn i fab; rhyw deimlad rhyfedd a greddfol, efallai, bod mwy o 'hawl' ar blentyn y ferch.
Na, mi wn i mai'r gwahaniaeth mawr yn fy mherthynas i â Sioned ac â Dylan ydi bod y naill yn byw'n agos ata'i, ac mai'r Almaen yw cartref y llall.
Wyrion pell ac agos
Mi fydd yn ddiddorol gweld sut y bydd hyn yn datblygu, a beth fydd y gwahaniaethau yn y berthynas rhwng y ddau fach yma o'r genhedlaeth nesa'.
Dyna i chi iaith, i ddechrau: mi fydd y ddau'n cael eu magu mewn cartrefi dwyieithog, Cymraeg a Saesneg, efo tad Sioned yn Sais, a mam Dylan yn Americanes o dras Almaenig. Ond wrth gwrs, mi fydd Almaeneg yn elfen ac yn iaith ychwanegol ym mywyd Dylan - yn gryfach, bosib, na'r Gymraeg.
Y pellter, wedyn, yn gwneud gweld Dylan a'r teulu yn fwy o 'achlysur', tra'i bod hi'n beth reit gyffredin i Sioned ddŵad yn syth i 'nhŷ i o'r ysgol (ac yn anelu'n ddi-ffael am y tun bisgedi - un arall o fanteision cael nain).
Mi fydd angen cadw cydbwysedd, peidio gwneud i'r naill deimlo ei bod yn cael ei chymryd yn ganiataol, na chwaith gael fy ngweld fel rhywun pell a diarth gan yr hogyn bach yn Köln.
Ond bendith, yn bendant - nid melltith!
Hefyd o ddiddordeb: