Canfod corff wrth chwilio am ffotograffydd o Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod corff wedi ei ganfod wrth iddyn nhw chwilio am ffotograffydd adnabyddus o Aberystwyth oedd wedi bod ar goll.
Dyw Keith Morris, 61, heb gael ei weld ers amser cinio ddydd Iau, ac roedd yr heddlu wedi cyhoeddi apêl ddydd Gwener i geisio dod o hyd iddo.
Brynhawn Sadwrn fe gyhoeddodd y llu bod corff dyn wedi cael ei ganfod ar draeth ger Borth.
Dyw'r corff heb gael ei adnabod yn ffurfiol eto ond mae'r teulu wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf.
Yn gynharach fe wnaeth Gwylwyr y Glannau gadarnhau eu bod nhw wedi cynorthwyo ddydd Gwener i geisio dod o hyd o berson oedd ar goll.
Mae Mr Morris yn ffotograffydd llawrydd sydd hefyd yn gyfranwr cyson i raglenni teledu a radio.
Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw â gwybodaeth allai eu helpu i ddarganfod beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw.
Mewn neges ar ei thudalen Facebook dywedodd AC Ceredigion, Elin Jones fod Mr Morris yn "holl-bresennol" yn nigwyddiadau'r ardal.
"Ar y prom, yn y dre', ym mhob protest a pharêd. Yn adlewyrchu amrywiaeth lliwgar Aberystwyth yn ei luniau, ac yn eu cyhoeddi i'r byd," meddai.
"Mae meddwl am Aberystwyth heb Keith a'i gamera yn boenus o anodd. Ef oedd mab anwylaf y dref."