Ymdrech i ddefnyddio enw Cymraeg ar bentref yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae ymdrech yn Sir y Fflint i gael cydnabyddiaeth i ffurf Gymraeg ar enw pentref.
Yn ôl rhai yn New Brighton ger yr Wyddgrug, dylid defnyddio'r enw Pentre Cythraul ar yr ardal.
Daeth panel sy'n safoni enwau lleoedd i'r casgliad yn 2018 mai "atgof yn unig" bellach yw enwau tebyg i hwnnw.
Ond dywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg y byddan nhw'n adolygu enwau lleoedd yn y sir cyn hir.
Mae'n debyg bod 'Pentre Catherall' - ar ôl y diwydiannwr Josiah Catherall - hen enw llafar ar y pentref, sydd ar gyrion yr Wyddgrug.
'Amrywiad'
Yn ôl y Panel Safoni Enwau Lleoedd, sydd dan arweiniad y comisiynydd iaith, "amrywiad yr enw oedd 'Pentre Cythrel'" nad oedd "fel y cyfryw wedi goroesi i'r 20ed ganrif".
Ond mae Darren Morris, sy'n gweithio i'r Urdd ac yn byw yn y pentref, yn arddel yr enw Pentre Cythraul.
"Dydy o ddim yn enw sydd wedi ei 'sgwennu lawr," meddai, "ond mae'n enw sydd yn hanesyddol wedi ei gynabod gan y bobl sy'n byw yn y pentre'", meddai.
"Ro'n i'n siarad efo rhywun yn gynharach oedd yn hollol ddi-Gymraeg, ond roedd o'n gwybod yn syth mai Pentre Cythraul oedd yr enw.
"Felly er bod o ddim yn enw swyddogol, mae o'n enw mae pobl y pentre' yn ei dderbyn a'i hoffi."
Mae'r Post Brenhinol a'r DVLA ymhlith y rheiny sy'n defnyddio Pentre Cythraul, ond dim ond New Brighton sydd ar arwyddion swyddogol.
Argymell defnyddio'r enw Saesneg, ac nid ffurfiau fel Pentre Catherall neu Pentre Cythrel, mae'r panel safoni enwau lleoedd yn eu dyfarniad.
'Cysylltiadau glofaol'
"Credir mai enwau llafar oedd y ddau enw gan mai Blue Bell oedd yr unig enw ar fap 1840," meddai.
"Yn sicr, wrth i'r ardal fynd yn fwy Seisnig a'r cysylltiadau glofaol ddiflannu, atgof yn unig yw Pentre Catherall a Pentre Cythrel.
"O'r herwydd mae'r Panel yn argymell y ffurf New Brighton yn unig."
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg ei fod yn "barod iawn i adolygu unrhyw benderfyniadau" am enw lle "os oes tystiolaeth yn dod i'r amlwg am ddefnydd lleol o enw."
Ychwanegodd: "Fel mae'n digwydd, rydym yn y broses o adolygu ein penderfyniad ar 'New Brighton' ar hyn o bryd, a hynny yn sgil derbyn ymholiadau am yr enw yn ystod y misoedd diwethaf.
"Mae cyfarfod eisoes wedi ei drefnu â Chyngor Sir y Fflint i drafod yr enw yma, ymysg eraill, yn fuan."