Darganfyddiad 6,000 oed mewn ffynnon yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
chwarel Dyfnog
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i'r chwarel o'r oes Neolithig ym mhen pella' un cwys o'r gloddfa

Wrth i 35 o wirfoddolwyr gynnal cloddfa archeolegol yn Ffynnon St Dyfnog yn Sir Ddinbych, fe wnaethon nhw ddarganfyddiad annisgwyl sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

Roedd y gloddfa gymunedol yn rhan o gynllun tair blynedd i adnewyddu'r ffynnon ger Llanrhaeadr.

Yn nyddiau cyntaf y gloddfa fe ddaeth ambell beth diddorol i'r fei, gan gynnwys grisiau carreg yn mynd i lawr i'r ffynnon a photel jin o Oes Fictoria.

Ond yna ym mhen pellaf un cwys fe ddaeth i'r amlwg safle chwarel prin iawn o'r Oes Neolithig allai fod oddeutu 6,000 oed.

Wrth asesu'r safle, y gred yw bod ffermwyr cynnar yr oes yn dod i'r ffynnon a defnyddio tanau a dŵr i greu offer cerrig.

'Uchafbwynt gyrfa'

Dywedodd yr archeolegydd Ian Brooks fod y darganfyddiad "yn un cyffrous".

"Roedden ni'n gwybod am chwareli mwy fel ym Mhenmaenmawr er enghraifft, ond doedden ni'n gwybod fawr ddim am chwareli bach i grwpiau lleol fel hyn.

"Mae hyn yn ei wneud yn ddarganfyddiad o bwysigrwydd cenedlaethol, yn ogystal â bod yn uchafbwynt gyrfa i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Credir bod ffermwyr cynnar oes y cerrig yn dod i'r ffynnon er mwyn medru creu offer neu arfau cerrig

Mae'r gloddfa yn rhan o gynllun sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i adnewyddu'r ffynnon ynghyd â'r pontydd a choedwigoedd cyfagos, ac mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Gymdeithas Cadwraeth Llanrhaeadr.

Eu cadeirydd yw Elfed Williams, a dywedodd: "Mae hwn yn ddarganfyddiad mor anhygoel ac yn rhywbeth doedden ni erioed wedi meddwl ei weld.

"Roedden ni'n gwybod bod y safle yn un arbennig, ond mae'r gloddfa wedi dangos ei fod yn fwy arbennig fyth. Fel rhan o'r cynllun fe fyddwn yn dehongli'r safle i ymwelwyr am y tro cyntaf, a fedrwn ni ddim disgwyl i gael rhannu'r stori yma."

Samantha Jones sy'n rheoli'r prosiect, ac ychwanegodd: "Beth sy'n wych yw mai gwirfoddolwyr ddaeth o hyd i'r safle yma. Mae'n brofiad rhyfeddol i fod y person cyntaf i gyffwrdd mewn rhywbeth sydd heb gael ei afael ynddo gan berson ers 6,000 o flynyddoedd."