Cwlwm yn ail-uno wedi bwlch o 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Nos Sadwrn, bydd grŵp sydd ddim wedi canu gyda'i gilydd ers bron i 20 mlynedd yn ail-uno am un noson yn unig, a hynny am reswm arbennig.
Mae Cwlwm yn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Llambed i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2020.
Gyda'r holl docynnau wedi gwerthu ers misoedd, mae'n amlwg fod yna gryn edrych 'mlaen yn lleol at glywed lleisiau'r pumawd unwaith eto, ond sut mae un o'r aelodau, Eleri Twynog, yn teimlo am sefyll ar lwyfan o flaen cynulleidfa ar ôl cyhyd?
"Dwi'n teimlo'n sâl yn meddwl am y peth! Ond dwi'n credu ein bod ni'n gyffrous. Ma'n rili neis ein bod ni wedi dod yn ôl at ein gilydd, ac 'yn ni gyd â dyled mawr i'r ardal a'r Steddfod.
"Felly mae hi'n bleser i ddod yn ôl at ein gilydd, a gobeithio gwneud ychydig o elw i'r Steddfod. Ond Duw â helpo'r gynulleidfa!"
Roedd Cwlwm i'w gweld ar lwyfannau ledled Cymru, ac ar y radio a'r sgrin fach ddiwedd yr 80au a gydol y 90au, yn canu caneuon traddodiadol, ac ychydig mwy unigryw - fel Walts 'da Matilda a Constitution Choo-Choo - a hynny mewn harmoni clos.
Roedd y pump aelod - Eleri Twynog, Delyth Medi, Elin Jones, Hedydd Thomas a Shân Cothi - yn ffrindiau ers eu cyfnod yn Ysgol Llambed.
"Roedd pedair ohonon ni'n gwneud Lefel A Cerddoriaeth," eglurodd Eleri. "Elin oedd yr unig un oedd ddim, ond roedden ni gyd yn ffrindie da.
"Roedd ein hathrawes, Delyth Hopkins Evans, yn ein hannog ni i ganu, a 'naethon ni lot fawr o ganu gyda'n gilydd, a dyna pam mae'r sain yn eitha' tynn 'da ni (neu mi oedd e bryd hynny, dwi ddim yn siŵr sut fydd e nos Sadwrn...!)
"Cawson ni wahoddiad fel grŵp i ganu ar Dechrau Canu Dechrau Canmol a dyna rili shwt ddechreuodd pethe.
"Fe 'naethon ni lot fawr o ganu yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llambed yn 1984, wedyn cael gwahoddiadau i ganu mewn cyngherddau.
"Cawson ni brofiadau ffantastig. Y 90au oedd y cyfnod prysura', ac oedden ni'n gwneud cyngherdde ar draws Cymru. Roedd 'na gyfnod lle bron â bod bob pythefnos roedd 'na gyngerdd."
Cafodd y bump ffrind brofiadau gwych, gan gael teithio i America ddwywaith a draw i Tsiecoslofacia i berfformio, ynghyd â recordio sawl CD gyda Sain.
"Recordio, cyngherdde, tripie tramor - o'dd en gyfnod arbennig," meddai Eleri.
"Ond fuon ni wrthi am tua 15 mlynedd ac o'dd e'n anodd i'w gynnal. O'dden ni i gyd yn byw dros y lle i gyd, a bydden ni'n dod o bob cwr o Gymru i wneud y cyngherdde.
"Ni erioed wedi gwneud peth mawr o orffen, ond dwi'n cofio Shân yn mynd i ffwrdd i Lundain i wneud Phantom of the Opera, a dwi'n meddwl fod gyrfaoedd pawb wedi mynd yn brysur."
Felly, am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae'r pumawd yn ôl yn ymarfer gyda'i gilydd unwaith eto, mewn paratoad ar gyfer y cyngerdd yn y dref ble ddechreuodd y cyfan, ddechrau'r 80au.
"Doedden ni ddim yn gwneud lot o ymarferion bryd hynny," mae Eleri yn ei gyfaddef, "achos oedden ni'n gwybod set o ganeuon yn arbennig o dda, ac roedden ni'n gwneud caneuon roedden ni'n canu lot gyda'n gilydd.
"Felly ryden ni wedi ymarfer mwy nawr na 'naethon ni erioed, fi'n credu.
"Mae'n anhygoel fel mae popeth yn dod yn ôl - oedden ni'n eu canu nhw gymaint. Bydden ni byth wedi meddwl y bydden nhw'n dod nôl mor hawdd.
"Ar wahân i Shân, sydd yn canu'n gyson, a Delyth sy'n canu dipyn yn ei swydd fel pennaeth cerddoriaeth ac arweinydd côr, dydi'r un o'r lleill ohonon ni'n canu y dyddie yma.
"Dal ein hanadl, dyna'r sialens fwya'... dy'n ni 20 mlynedd yn hŷn wedi'r cwbl! Ond dwi'n credu fod y nodau yna.
"Hedydd yw'r un drefnus, hi sydd wedi cadw copïau popeth, diolch byth, neu Duw a ŵyr le fydden ni. Roedd hi'n job i ffeindio rhai o'r backing tracks - Shân ffendiodd nhw yn y diwedd yn rhywle.
"Ond roedd y rhan fwyaf o'n caneuon ni yn ddigyfeiliant - dwi'n credu mai digyfeiliant 'yn ni fwya' cyfforddus gyda'i wneud, a falle mai dyna 'yn ni fwyaf adnabyddus am ei wneud hefyd.
"Ni am dreial dweud rhyw fath o stori, o ble ddaethon ni, hyd heddiw - felly mynd nôl i rai o'r caneuon cynnar, a mynd â'r gynulleidfa ar dipyn o daith.
"Mae'r tocynnau i gyd wedi gwerthu a mae 'na restr aros, mae'n debyg. Felly bydd angen rhoi dipyn o shew ymlaen!
"Dwi'n meddwl mai one-off fydd hi. Ond never say never. Nawn ni weld sut eith hi nos Sadwrn..."
Hefyd o ddiddordeb: