Rali GB yn aros yng Nghymru'r flwyddyn nesaf

  • Cyhoeddwyd
Rali GB Cymru 2019Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb i gynnal y rali yma nes 2021

Bydd cymal Prydain o Bencampwriaeth Rali'r Byd yn dychwelyd i Gymru'r flwyddyn nesaf, meddai'r trefnwyr.

Roedd y rhai sydd tu ôl i'r digwyddiad wedi bod mewn trafodaethau gydag awdurdodau yng Ngogledd Iwerddon ynglŷn â chynnal y rali yno'r flwyddyn nesaf.

Ond wedi misoedd o ansicrwydd mae pennaeth Motorsport UK, Hugh Chambers wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd Rali GB yn digwydd yng Nghymru yn 2020.

Mae cytundeb mewn lle gyda Llywodraeth Cymru i gynnal y rali yma nes 2021.

Rali GB Cymru 2019Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cymal o'r ras yn Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog eleni

Dywedodd Mr Chambers: "Roedd y digwyddiad y penwythnos diwethaf yn un gwych, ac mae llwyddiant hynny wedi bod yn ysgogiad i ni allu cyhoeddi y bydd y rali'n dychwelyd i Gymru'r flwyddyn nesaf."

Roedd y rali'n arfer ymweld â gwahanol lefydd ym Mhrydain, ond mae bellach yn cael ei galw'n Rali Cymru GB am mai Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yw'r noddwr.

£10m i'r economi

Pan wnaeth Gogledd Iwerddon ddatgan diddordeb mewn cynnal y digwyddiad yn 2020 fe ddechreuodd trafodaethau.

Byddai wedi golygu y byddai'r llywodraeth yng Nghymru yn gohirio'r cytundeb oedd gyda nhw am flwyddyn.

Llandudno oedd y pencadlys eleni a dyma lle'r oedd y rali hefyd yn gorffen.

Yr amcangyfrif yw bod dros 100,000 o bobl wedi mynychu'r gystadleuaeth pedwar diwrnod eleni, a'i fod gwerth dros £10m i'r economi leol.

Rali LerpwlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y rali ddechrau o Lerpwl eleni - y tro cyntaf iddi ddechrau tu allan i Gymru ers 20 mlynedd

"Wrth i fi deithio o gwmpas y wlad yr wythnos ddiwethaf yn siarad gyda phobl - gwirfoddolwyr, y swyddogion neu'r cefnogwyr - roedd pawb yn dweud yr un peth. Maen nhw eisiau i'r rali ddod yn ôl i Gymru," meddai Mr Chambers.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod y digwyddiad yn dangos y "lleoliadau syfrdanol o hardd yng ngogledd a chanolbarth Cymru" i "gynulleidfa fyd-eang".

Dyw union leoliad y rali yn 2020 ddim wedi ei gadarnhau eto ond mae Cyngor Conwy mewn trafodaethau gyda'r trefnwyr yn y gobaith o ddenu'r digwyddiad yn ôl unwaith eto.

Cafodd y ras ei gynnal yn bennaf yng ngogledd Cymru eleni, ond roedd cymal ger Llangurig ym Mhowys, cyn i'r rali orffen yn Llandudno.