Atal adeiladu tai wedi penderfyniad 'unigryw' barnwr
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau datblygwr i adeiladu cannoedd o dai ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi ei atal yn sgil penderfyniad unigryw un barnwr.
Roedd cwmni datblygu Hillside Parks Limited wedi defnyddio cais cynllunio gafodd ei rhoi dros 50 mlynedd yn ôl fel rheswm dilys i adeiladu 401 o dai yn Aberdyfi.
Cyngor Sir Meirionydd oedd wedi rhoi'r caniatâd yn 1967 ar gyfer stad o dai yn ardal Balkan Hill, ond yn y 70au fe beidiodd yr awdurdod â bod.
Dywedodd y barnwr Andrew Keyser QC ei bod hi'n amhosib yn gyfreithiol i weithredu cais cynllunio 1967.
Roedd y cais cynllunio yn rhoi caniatâd i berchnogion y tir ar y pryd adeiladu "clwstwr o gartrefi" a dadl Hillside Parks a ddaeth yn gyfrifol am y safle yn 1997 oedd bod y caniatâd hwnnw yn dal i fod mewn grym.
Yn 1987 fe wnaeth barnwr arall ddweud bod y caniatâd yn parhau yn gyfreithiol.
Mae 41 o dai wedi eu hadeiladu ar y safle ar hyd y blynyddol ac roedd 6 arall yn y broses o gael eu gorffen pan fu'n rhaid gohirio'r gwaith tra bod yr achos yn cael ei glywed yn y llys.
Yn ôl y Barnwr Keyser mae'r cynllun gwreiddiol gafodd sêl bendith yn 1967 wedi ei addasu gan sawl cais cynllunio ar ôl hynny.
Dywedodd nad yw'n bosib cwblhau'r datblygiad yn unol â'r caniatâd gafodd ei rhoi yn 1967 ac y byddai unrhyw ddatblygiadau pellach ar y safle yn gorfod cael sêl bendith gan yr awdurdod lleol a chaniatâd cynllunio newydd.