BBC Cymru'n amddiffyn cyfres oedd â chymeriadau o Loegr
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr BBC Cymru wedi amddiffyn cyfres ddrama gafodd ei lleoli yn Sir Fôn ond oedd yn defnyddio nifer o gymeriadau o Loegr.
Cafodd cyfres Pitching In ei darlledu ar BBC One yn gynharach yn y flwyddyn.
Tra bod rhai wedi beirniadu'r ddrama, dywedodd Rhodri Talfan Davies bod hi'n bwysig bod pobl sy'n symud o Loegr i fyw yng Nghymru yn cael eu gweld ar y sgrin.
"Dwi'n teimlo yn gryf am hyn. Os ydych chi yn teithio i Sir Benfro neu unrhyw dref lan y môr yng ngogledd Cymru mae 'na nifer o lefydd lle y byddech chi yn cyfarfod pobl sydd wedi symud i mewn o Loegr," meddai.
"Mae ganddyn nhw'r un hawl i gael eu hadlewyrchu ar y sgriniau yng Nghymru â'r bobl sydd wedi byw yma ar hyd eu bywyd."
Roedd cyfarwyddwr BBC Cymru yn ateb cwestiynau gan ACau o Bwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad.
Fe wnaeth Mr Davies hefyd amddiffyn y newidiadau i wasanaeth Radio Wales ers iddyn nhw gael eu cyflwyno ym mis Mai.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters ar y pryd bod y newidiadau yn golygu na fyddai yna "rhaglen newyddion ddifrifol" ar gyfer y slot amser brecwast.
Ond mynnodd Mr Davies nad oedd "unrhyw straeon sylweddol" wedi eu colli ers cyflwyno'r diwygiadau newydd.
Ychwanegodd bod mwy o straeon yn y rhaglen newydd am fod y rhaglen â thempo cynt.
Yn ôl yr AC John Griffiths byddai "rhai yn hoffi rhaglen newyddion mwy difrifol… yn hytrach na'r arddull sgyrsiol, bron fel troellwr disgiau sy'n digwydd".
Ymateb Mr Davies oedd bod angen y cydbwysedd cywir. "Mae pobl angen clywed eu hunain ar yr awyr," meddai.
Awgrymodd hefyd y posibilrwydd o wasanaeth ychwanegol fyddai'n cynnig rhywbeth arall fwy ysgafn o safbwynt newyddion am na fyddai "rhai o'r gynulleidfa byth yn gwrando ar wasanaeth siarad llwyr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2019
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019