Peilot 'yn flinedig' cyn damwain angheuol ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Roedd peilot o'r Red Arrows fu'n rhan o ddamwain awyren angheuol ar Ynys Môn bron yn bendant yn flinedig, yn ôl ymchwilwyr i'r digwyddiad.
Fe wnaeth y panel ddarganfod hefyd ei bod yn debyg bod rhywbeth wedi tynnu sylw'r Awyr-Lefftenant David Stark.
Bu farw'r Corpral Jonathan Bayliss, peiriannydd 41 oed o Gaint, yn y digwyddiad ar 20 Mawrth 2018.
Cafodd yr Awyr-Lefftenant Stark hefyd ei anafu yn y ddamwain ar ôl llwyddo i ymdaflu o'r awyren cyn iddi daro'r ddaear.
Bwriad yr awyren Hawk oedd gadael Y Fali a dynwared injan oedd wedi methu, cyn teithio ymlaen i Sir Lincoln.
Cafodd yr Awyr-Lefftenant Stark ei ddisgrifio fel peilot profiadol, oedd yn gyfarwydd â'r ymarferiad.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ddod i'r canlyniad bod ei amserlen - gweithio o 07:30-17:30 yn ddyddiol - ddim yn gadael "digon o amser i ymlacio", oedd yn ffactor yn y ddamwain.
Ychwanegwyd ei fod o bosib ddim yn canolbwyntio am ei fod wedi cael cais gan reolwyr traffig awyr yn gofyn iddo gadarnhau bod offer glanio'r awyren ar gael i'w defnyddio.
Dywedodd yr adroddiad ei bod yn "debygol iawn" bod yr Awyr-Lefftenant Stark yn llai ymwybodol o'r sefyllfa roedd ynddi oherwydd hynny.
Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ddarganfod nad oedd yr Awyr-Lefftenant Stark wedi cael digon o amser i rybuddio'r Corpral Bayliss eu bod ar fin cael damwain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2018