Llys yn cael dyn yn euog o dreisio ei ferched ei hun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedd yn cael rhyw yn rheolaidd gyda'i ferched ei hun wedi ei gael yn euog o'u treisio a'u cam-drin.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y diffynnydd, na ellir ei enwi er mwyn gwarchod y dioddefwyr yn yr achos, wedi dylanwadu ar ei ferched pan roedden nhw yn eu harddegau a'u gorfodi i gael rhyw gydag ef.
Mae profion DNA wedi dangos mai ef yw tad o leiaf chwech o blant ei ferched ei hun, a'i fod wedi cam-drin un o'r plant hynny hefyd.
Bydd y dyn, oedd yn gwadu 36 cyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad rhyw arall, yn cael ei ddedfrydu ar 18 Hydref.
Fe gymrodd y rheithgor lai na phedair awr a hanner cyn dod i'r casgliad unfrydol ei fod yn euog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Achos 'dirdynnol'
Roedd y dyn wedi ceisio honni bod y merched yn ei flacmelio, a bod y rhyw yn gydsyniol am nad oedd yn gwybod eu bod yn blant iddo.
Hefyd fe ddanfonodd e-byst dan enw seicig ffug i un o'i ferched yn dweud wrthi am barhau i gael rhyw gydag ef.
Ni ddangosodd unrhyw emosiwn wrth i flaenwr y rheithor gadarnhau'r dyfarniadau.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas bod yr achos wedi bod yn un arbennig o ddirdynnol.
Ychwanegodd: "Rydw i wedi ymhél ag achosion troseddol fel bargyfreithiwr a barnwr am 40 o flynyddoedd. Mae hwn ymhlith y tri achos gwaethaf i mi ymwneud â nhw."
Dewrder y dioddefwyr
Wrth ddiolch i aelodau'r rheithgor am eu gwasanaeth, dywedodd bod gwasanaethau cwnsela ar gael ar eu cyfer, petai angen.
Wedi'r dyfarniad dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r dyn yma wedi ei gael yn euog o'r troseddau rhyw mwyaf difrifol, ac mae'n anodd iawn i grynhoi effaith ei droseddau ar ei ddioddefwyr."
Talodd deyrnged i'r merched, gan ddweud bod "eu dewrder a hunanfeddiant trwy'r achos anodd yma" wedi arwain at erlyn troseddwr "peryglus iawn... a gobeithio byddan nhw'n gallu dechrau symud ymlaen ac ailddechrau byw eu bywydau".