David Adams i olynu Roberts gydag Ymddiriedolaeth CBDC

  • Cyhoeddwyd
David AdamsFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Adams wedi bod yn addysgu hyfforddwyr gyda CBDC ers dros 10 mlynedd

Mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penodi David Adams fel cyfarwyddwr technegol newydd.

Ef fydd yn olynu Osian Roberts, sydd bellach yn gneud yr un sydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Moroco, yn y rôl.

Fe wnaeth Adams ennill trwydded Pro UEFA yn 2011, ac mae wedi bod yn addysgu hyfforddwyr gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ers dros 10 mlynedd.

Mae ganddo ddoethuriaeth o Brifysgol De Cymru a bu'n ddarlithydd yn yr un brifysgol, gan ddatblygu'r cwrs gradd cyntaf mewn hyfforddi pêl-droed mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth CBDC.

Roedd Adams yn bennaeth hyfforddi gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe rhwng 2014 a 2017, gan ddatblygu rhai o sêr Cymru fel Daniel James, Connor Roberts a Joe Rodon.

Mae Adams hefyd wedi bod yn rhan o dimau hyfforddi Everton a Middlesbrough.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Osian Roberts wedi bod yn is-reolwr i Ryan Giggs gyda'r tîm cenedlaethol hefyd

Dywedodd prif weithredwr Ymddiriedolaeth CBDC, Neil Ward bod y sefydliad yn "falch o fod wedi sicrhau person o safon David fel ein cyfarwyddwr technegol".

"Rwy'n edrych ymlaen gyda hyder i'w weld yn adeiladu ac ymestyn ar lwyddiant ein rhaglenni addysgu hyfforddwyr a datblygu chwaraewyr o'r safon uchaf, wedi'u dylunio gan ei ragflaenydd Osian Roberts."

Bydd Adams yn dechrau yn ei rôl newydd fis nesaf.