'Giggs: 'Rhaid gwella perfformiad'

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Giggs: 'Cam ymlaen' yn erbyn Slofacia

Dywed rheolwr tîm pêl-droed Cymru Ryan Giggs y bydd yn rhaid i'w dîm wella ar eu perfformiad yn Slofacia os ydynt am guro Croatia yng Nghaerdydd nos Sul.

Cred Giggs fod Cymru wedi "cymryd cam ymlaen" gyda'r gêm 1-1 yn Trnava, ond ychwanegodd na fydd y lefel yna o berfformiad yn ddigon yn erbyn y tîm wnaeth gyrraedd ffeinal Cwpan y Byd.

"Bydd yn rhaid i ni chwarae yn well na'r noson o'r blaen, bydd angen canolbwyntio'n llwyr yn erbyn tîm talentog iawn, un o dimau gorau'r byd.

"Byddwn i yn dweud mai Croatia yw'r ffefrynnau," meddai Giggs wrth i'w dîm geisio am le yn rowndiau terfynol Euro 2020.

"Nhw yw'r ffefrynnau yn syml oherwydd y chwaraewyr sydd ganddynt.

"Mae beth maen nhw wedi llwyddo i'w wneud yn ddiweddar yn anhygoel.

"Mae'n rhaid i ni fod ar ein gorau yn erbyn tîm arbennig, sydd â chwaraewyr arbennig.

"Ond rydym ni gartref ac mae gennym record dda yng Nghaerdydd.

"Mae bod gartre yn unioni pethau ychydig."

Ffynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Aaron Ramsey wedi chwarae i Gymru ers mis Tachwedd 2018

Dywed Giggs y bydd yn caniatáu gymaint o amser â phosib i Aaron Rasmey i fod yn holliach ar gyfer y gêm nos Sul am 19:45 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe wnaeth Rasmey, sydd wedi anafu ei glun, hyfforddi ar ben ei hun yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Fe fydd yna brawf ffitrwydd hefyd i'r ymosodwr Kieffer Moore, sgoriwr gol Cymru yn Slofacia.

Grŵp agos

Byddai buddugoliaeth i Gymru yn eu rhoi mewn sefyllfa gref yn Grŵp E - ond byddant ddim yn llwyr allan ohoni chwaith, pe bae nhw'n colli.

Mae'n bosib y bydd Cymru yn dal yn gallu cyrraedd rowndiau terfynol pe bai nhw'n ennill eu dwy gêm olaf - oddi cartref yn Azerbaijan a gartref yn erbyn Hwngari - cyn belled â bod Croatia yn curo Slofacia ar 16 Tachwedd.

Golygai hynny y byddai Cymru a Slofacia yn gyfartal ar 13 pwynt yr un, ond byddai Cymru yn gorffen uwchben Slofacia oherwydd record y gemau rhwng y ddau dîm.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y bedwerydd safle, ond wedi chwarae un gêm yn llai na Croatia, Hwngari a Slofacia.