Gemau rhagbrofol Euro 2020: Slofacia 1-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi sicrhau pwynt pwysig oddi cartref yn erbyn Slofacia, gan gadw'r gobaith o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 yn fyw.
Roedd hi'n noson gofiadwy i'r ymosodwr Kieffer Moore yn Trnava a sgoriodd yn ei gêm ryngwladol gyntaf i roi Cymru ar y blaen.
Ond er i Gymru gael y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf, Slofacia oedd yn gryfach wedi'r egwyl, gan lwyddo i ddod â'r gêm yn gyfartal.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n aros yn y bedwerydd safle yn nhabl Grŵp E gyda saith o bwyntiau wrth baratoi i wynebu Croatia nesaf.
Sgoriodd Moore wedi 25 o funudau gyda pheniad nerthol o groesiad gan Dan James o'r chwith.
Eiliadau ynghynt roedd Gareth Bale yn agos at sgorio gydag ymdrech a darodd y bar, ac roedd Cymru'n haeddu bod ar y blaen.
Roedd angen ymateb sydyn gan Ethan Ampadu i atal ergyd gynnar gan Róbert Mak, oedd yn ddraenen yn ystlys tîm Ryan Giggs ar sawl achlysur.
Wedi cyfnod o bwyso ar Gymru ar ddechrau'r ail hanner, fe lwyddodd y tîm cartref i daro'n ôl ac unioni'r sgôr wedi 53 o funudau.
Methodd Connor Roberts â chlirio croesiad a syrthiodd y bêl yn daclus ar ymyl y cwrt cosbi i Juraj Kucka.
Doedd dim camgymeriad gan chwaraewr canol cae Slofacia, a darodd y bêl yn isel â'i droed chwith i gornel y rhwyd.
Oni bai am y foment arweiniodd at gôl Slofacia, cafodd Roberts gêm dda ar y cyfan.
Roedd angen arbediad arbennig gan Wayne Hennessey i atal Kucka rhag sgorio ail gôl gydag ymdrech isel arall.
Roedd yna gyfleoedd i'r ddau dîm, gan gynnwys ymdrech hwyr gan yr amddiffynnwr Joe Rodon a fu bron â rhoi Cymru ar y blaen am yr eildro.
Ond roedd yr awyrgylch yn y stadiwm wedi newid yn dilyn gôl Slofacia, a chefnogwyr Cymru'n dawelach nag yn ystod yr hanner cyntaf.
Roedd yna eiliadau pryderus tua'r diwedd wedi tacl hwyr ar Milan Skriniar gan Bale - oedd eisoes wedi gweld carden felen yn gynnar yn yr hanner cyntaf.
Roedd capten Cymru'n llonydd ar y llawr am gyfnod byr ond roedd yna ryddhad pan gododd a gadael y cae am driniaeth - ac osgoi ail garden felen.
Gyda thair gêm nawr yn weddill, bydd Cymru'n wynebu Croatia nos Sul yng Nghaerdydd.
Maen nhw dri phwynt tu ôl i Slofacia ond wedi chwarae un gêm yn llai na'r timau sy'n uwch na nhw yn y grŵp.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019