Cymru heb Ramsey ar gyfer Croatia

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe fydd Cymru heb eu chwaraewr canol cae dylanwadol Aaron Ramsey ar gyfer y gêm yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd nos Sul.

Mae'r chwaraewr 28 oed yn dioddef o anaf i'w glun, a methodd â theithio ar gyfer y gêm gyfartal yn erbyn Slofacia yn gemau rhagbrofol Euro 2020.

Roedd rheolwr Cymru Ryan Giggs wedi gobeithio y byddai Ramsey yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn Croatia, ond unwaith eto fydd y chwaraewr allweddol ddim ar y cae.

Cred Giggs y bydd yn rhaid i Gymru wella ar eu perfformiad yn Trava nos Fercher os ydynt am guro Croatia sydd ar frig Grŵp E.

Byddai buddugoliaeth i Gymru yn eu rhoi mewn sefyllfa gref yn Grŵp E - ond fydd Cymru ddim yn llwyr allan ohoni chwaith, pe bae nhw'n colli.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y pedwerydd safle, ond wedi chwarae un gêm yn llai na Croatia, Hwngari a Slofacia.