Person wedi'i daro gan gerbyd yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ffordd PenglaisFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y person ei daro ar Ffordd Penglais toc cyn 08:50 fore Llun

Mae person wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd yn Aberystwyth fore Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Penglais toc cyn 08:50.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod un person wedi cael ei gludo i Ysbyty Bronglais.

Does dim gwybodaeth eto am gyflwr y person gafodd ei daro.