Mwy o fabanod yng Nghymru yn rhan o achosion gofal

  • Cyhoeddwyd
BabyFfynhonnell y llun, damircudic/Getty Images

Mae adroddiad wedi datgelu bod cynnydd yn nifer y babanod yng Nghymru sy'n rhan o achosion gofal.

Mewn tair blynedd, fe ddyblodd y gyfradd o fabanod newydd-anedig a oedd yn destun achosion gofal.

O bob 10,000 o fabanod a anwyd yn 2015, roedd 39 yn rhan o achosion gofal ar ôl i wasanaethau cymdeithasol godi pryderon yn y pythefnos cyntaf o'u bywydau.

Erbyn 2018, roedd hynny wedi codi i 83.

Mae'n golygu bod babanod newydd-anedig yng Nghymru bellach yn fwy tebygol o fod mewn achosion gofal nag yn Lloegr.

Mae gan lysoedd y grym i roi plentyn dan ofal awdurdod lleol os yw'n cael ei niweidio, neu'n debygol o gael ei niweidio, yn y cartref.

'Gweithredu yn y tywyllwch'

Daw'r canfyddiadau wedi'r dadansoddiad cyntaf o'i fath o achosion gofal yng Nghymru, mewn adroddiad sy'n ceisio taflu goleuni ar y system gyfiawnder i deuluoedd.

Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen gwaith pellach i egluro'r rhesymau y tu ôl i'r ffigyrau.

Mae mynd â phlentyn o'i gartref ymhlith y penderfyniadau anoddaf gall gweithwyr proffesiynol ei wneud, meddai'r adroddiad.

Ond mae'n ychwanegu bod y system gyfiawnder i deuluoedd wedi "gweithredu yn y tywyllwch am gyfnod rhy hir".

Mae'n dangos hefyd, yn 2015, bod 52% o'r babanod dan un oed a oedd mewn achosion gofal yn llai na phythefnos oed.

Roedd tua hanner eu mamau eisoes wedi bod yn rhan o achosion llys gyda phlant eraill.

Patrwm 'trawiadol'

Daw'r adroddiad wrth i Lywodraeth Cymru osod targedau gydag awdurdodau lleol i leihau nifer y plant mewn gofal.

Ond mae'r dadansoddiad yn dangos bod mwy o blant yn mynd i ofal awdurdodau lleol ar ddiwedd achosion llys yng Nghymru a bod llai yn cael eu mabwysiadu.

Mae'r llysoedd yn Lloegr, ar y llaw arall, yn llawer llai tebygol o ddefnyddio gorchmynion gofal.

Dywedodd yr Athro Karen Broadhurst, o Brifysgol Lancaster, bod y patrwm o fwy o orchmynion yn cael eu defnyddio ar ddiwedd achosion llys yn "drawiadol".