Gosod targed i leihau nifer y plant mewn gofal

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn gofal

Mae targedau'n cael eu gosod i geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal, ond ni fydd cynghorau'n cael eu cosbi os ydynt yn methu.

Mae disgwyl cynnydd eleni o ran nifer y plant sydd mewn gofal, ac mae'r gweinidog sy'n gyfrifol wedi dweud "na allai barhau".

Mae cynghorau wedi cytuno i osod "disgwyliadau o ran y gostyngiadau", gyda 16 o'r 22 awdurdod lleol yn gosod targedau.

Yn ystod ei ymgyrch i arwain Llafur Cymru, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford y byddai targedau yn cael eu gosod.

'Anghyfforddus'

Dywedodd yr Is-weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AC, y byddai "cynllun diogelwch yn gyntaf" ac "na fyddai unrhyw beth yn disodli'r angen i warchod plant rhag camdriniaeth na chael eu hesgeuluso".

Disgrifiad o’r llun,

"Byddai dim yn disodli'r angen i warchod plant rhag camdriniaeth" meddai Julie Morgan AC

Ym Mawrth 2018, roedd 6,504 o blant mewn gofal.

Mae disgwyl i ffigyrau newydd sydd allan ym mis Tachwedd ddangos fod y ffigwr wedi cynyddu o 470 eleni.

Golygai hynny fod 109 plentyn allan o 10,000 mewn gofal yng Nghymru.

Mae'r ffigwr yn uwch na'r rhai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

'Dim ateb syml'

Er i'r ffigwr cyfartalog fod yn uwch yn Yr Alban ers tro, mae wedi bod yn gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, tra bod y ffigyrau yng Nghymru'n parhau i gynyddu.

Mae cynnydd o 34% wedi bod mewn 15 mlynedd a "ni allwn adael i hyn fynd yn ei flaen er lles y plant," meddai Ms Morgan.

Dywedodd AC Llafur, Lynne Neagle ei bod hi'n "hynod anghyfforddus" gyda gosod targedau.

"Does dim eglurhad syml. Mae'n annhebygol bod ateb syml.

"Dwi ddim yn credu fod unrhyw bennaeth gofal plant yn y wlad yn codi yn y bore ac yn meddwl dod â mwy o blant i mewn i ofal."