Camerâu cyflymder ffyrdd Triongl Evo dal ddim yn weithredol
- Cyhoeddwyd
Dydy camerâu cyflymder ar ffordd sy'n nodedig am yrru peryglus dal ddim yn weithredol, chwe mis ar ôl iddyn nhw gael eu gosod.
Cafodd y camerâu eu gosod ym mis Ebrill yn y gobaith y byddai'n atal gyrwyr rhag defnyddio ffyrdd Triongl Evo fel trac rasio.
Gosodwyd y camerâu ar yr A453 gan gynghorau Conwy a Sir Ddinbych, gyda help grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Mae tair lôn rhwng Pentrefoelas, Llyn Brenig a Cherrigydrudion yn cael eu hadnabod yn lleol fel Triongl Evo.
Bu farw pedwar o bobl ar y ffyrdd rhwng 2012 a mis Ebrill eleni.
Mewn datganiad ar ran y cynghorau a Heddlu Gogledd Cymru, dywedodd GanBwyll - partneriaeth lleihau damweiniau ffyrdd Cymru: "Mae cynllun Camera Cyflymder Cyfartalog yr A543 yn fenter amlasiantaethol i fynd i'r afael â nifer o wrthdrawiadau ar y ffordd.
"Er ein bod yn deall yn iawn fod harddwch naturiol y rhan hon o'r byd yn atyniad, rydym am sicrhau bod modurwyr yn teithio ar ein ffyrdd yn ddiogel drwy leihau eu cyflymderau, cadw at arwyddion rhybuddio a gwybodaeth sydd wedi'u lleoli ar hyd y ffyrdd ac ystyried diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd.
"Mae sawl cam i gomisiynu cynllun o'r fath ac ar hyn o bryd rydym yn aros i'r camerâu terfynol gael eu comisiynu i gwblhau'r cynllun yn llawn.
"Rydym eisoes wedi cael adborth cadarnhaol gan gymunedau sydd wedi gweld gostyngiad mewn cyflymderau."
Dywedodd GanBwyll y byddai gwaith i osod mwy o gamerâu - ar y B4501 - yn cychwyn yn 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2017