Y llifogydd yn effeithio ar bobl y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae rhai ffyrdd wedi eu cau ar hyd arfordir y gogledd

Mae gwyntoedd hyd at 70 milltir yr awr a llanw uchel ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn

Yn gynharach roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth bobl i symud eu heiddo i fan diogel

Ym Mae Cinmel mae'r dŵr wedi codi ac mae rhybuddion wedi eu rhoi ar gyfer dwy ardal yn Sir y Fflint hefyd

Y gwasanaethau brys yn helpu dyn o gwch ar ôl ei achub o'i dŷ yn y Rhyl

Mae disgwyl i'r gwyntoedd cryfion barhau weddill y diwrnod

Y llanw uchel sydd wedi achosi'r problemau gwaethaf yn y gogledd

Dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod nhw wedi cael dros 30 o alwadau am y llifogydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2013