Gall ddiffyg lle mewn mynwentydd gostio £800,000
- Cyhoeddwyd
Gallai Cyngor Sir y Fflint orfod gwario £800,000 i ddelio â diffyg lle ym mynwentydd yr ardal.
Mae disgwyl i "brif fynwent" y sir ym Mhenarlâg fod yn llawn ymhen pedair blynedd.
Draw yn Yr Hôb, dim ond saith man claddu sydd ar ôl.
Bydd un o bwyllgorau'r sir yn ystyried cymeradwyo'r gwariant ddydd Mawrth.
Saith bedd ar ôl
Y llynedd, rhybuddiodd yr Eglwys yng Nghymru na all pobl bellach "gymryd yn ganiataol" y bydd lle i'w claddu yn eu cymuned.
Dywedodd y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd bryd hynny bod y sefyllfa yn "argyfyngus".
Mae Mynwent Penarlâg yn delio â "thraean o holl gladdedigaethau" Sir y Fflint, yn ôl yr adroddiad sy'n mynd gerbron Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd y cyngor.
Gyda 200 o leoedd claddu ar ôl, a 50 claddedigaeth y flwyddyn ar gyfartaledd, mae'n debygol y bydd yn llawn ymhen pedair blynedd.
Mae'r cyngor wedi clustnodi tir i'w ddefnyddio i ehangu'r fynwent. Byddai'n costio tua £600,000 ac maen nhw wedi cynnal trafodaethau "cynnar" gyda pherchennog y safle.
Yn y cyfamser, dim ond lle i saith bedd sydd ar ôl ym Mynwent Yr Hôb, lle mae 10 claddedigaeth bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Byddai estyniad i'r fynwent yno yn costio tua £225,000, ond fe fyddai'n creu incwm o tua £375,000 dros 25 mlynedd, yn ôl amcangyfrifon y cyngor.
Draw ym Mwcle, mae digon o le am naw blynedd arall, ond does "dim tir addas ar gael" ger y fynwent a bydd angen dod o hyd i "safle arall addas ym Mwcle neu ardaloedd cyfagos".
Fe fyddai'r estyniadau yn Yr Hôb a Phenarlâg yn cadw'r mynwentydd yn weithredol am tua 20 mlynedd arall.
Bydd aelodau'r pwyllgor yn ystyried y cais i brynu'r tir yn eu cyfarfod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2018