Lleoedd claddu'n 'prinhau' medd Yr Eglwys yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eglwys yng Ngymru'n rhybuddio fod lleoedd claddu yn prinhau.
Mae'r eglwys yn rhybuddio nad oes lle ar ôl yn nifer o'i mynwentydd, tra bod eraill yn mynd i fod yn llawn o fewn ychydig flynyddoedd.
Dywedodd Alex Glanville o'r Eglwys yng Nghymru na all pobl gymryd yn ganiataol bellach y byddan nhw'n cael eu claddu o fewn eu cymunedau.
Daw hyn wrth i gynghorwyr Cyngor Caerdydd ystyried a ddylen nhw wario £3m ar fynwent newydd.
Mae tua 1,350 o bobl y flwyddyn yn cael eu claddu gan wasanaethau'r awdurdod, ond, wrth i'r boblogaeth dyfu a heneiddio, mae'n rhagweld y bydd y fynwent brysuraf, Thornhill, yn llawn erbyn Mehefin 2020.
Problem i gynghorau
Ond mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru'n awgrymu nad yw'r broblem yn unigryw i'r brifddinas, gyda nifer o gynghorau'n ystyried sut i fynd i'r afael â phrinder lle.
Tra bo mynwentydd yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, Yr Eglwys yng Nghymru sy'n rheoli'r tir o fewn muriau eu heglwysi.
Mae'r corff yn dweud eu bod yn wynebu "bil atygweirio sylweddol", oherwydd, unwaith bod mynwent yn llawn, does dim incwm yn dod o gladdedigaethau er mwyn eu cynnal a'u cadw, ac yn aml iawn, grwpiau cymunedol sy'n gorfod gofalu am y beddi.
Dywedodd Mr Glanville: "Allwch ni ddim bellach â chymryd yn ganiataol y bydd gennyn ni orffwysfannau yn agos i'n cymunedau."
Mae'r sefyllfa'n amrywio ar draws Cymru, gyda chynghorau'n dweud wrth BBC Cymru mai ychydig o flynyddoedd sydd gan rai mynwentydd ar ôl, tra bod gan eraill hyd at 100 mlynedd cyn i leoedd fynd yn brin.
Y sefyllfa mewn rhai siroedd:
Mae Mynwent Cil-maen yn Sir Benfro bron yn llawn - chaiff teuluoedd ddim rhag-archebu beddi bellach. Mae'r awdurdod yn gobeithio ei chadw'n agored am hyd at 10 mlynedd arall.
Ym Mhowys, mae dwy fynwent wedi eu cau, tra bod gan fynwent Machynlleth le am ddwy flynedd arall. Mae'r cyngor yn edrych am dir er mwyn datblygu un newydd.
Ym mynwent Wrecsam, does dim lle i feddi newydd.
Mae Cyngor Caerffili'n agor mynwent newydd ger Nantgarw ac yn gobeithio ymestyn Brithdir.
Yng Nghonwy, does dim lleoedd ym mynwentydd St Agnes, Y Gogarth a St Gwynan, a does dim lle i gladdu llwch ym mynwent Erw Feiriol yn Llanfairfechan.
Ers 1996, does gan dair o fynwentydd Gwynedd ddim lle i feddi newydd, ond mae digon o le mewn mynwentydd eraill.
Yn Sir Fynwy, mae'r cyngor eisiau ehangu mynwent Llanfoist, sydd â bron i wyth mlynedd ar ôl, ac mae 90 mlynedd ar ôl ym mynwent Casgwent.
Efallai nad yw'r prinder yn gymaint o broblem i rai capeli yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb yr Annibynwyr: "Nid yw Undeb yr Annibynwyr, sy'n cynrychioli cynulleidfaoedd sy'n cwrdd mewn tua 400 o gapeli ledled Cymru, wedi clywed pryder am brinder lle i gladdu.
"Os yw ambell i fynwent bron â bod yn llawn, nid ydym yn ymwybodol ohonynt.
"Bu'n dueddiad cynyddol yn ddiweddar i amlosgi'r corff a chladdu'r llwch wrth droed bedd y teulu.
"Mae hyn, yn naturiol, yn golygu bod llai o alw am feddau newydd ac yn lleddfu unrhyw bwysau allai fod ar dir claddu mewn mynwent."
'Sefyllfa argyfyngus'
Ond mae Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd, yr ICCM, yn dweud bod y sefyllfa'n argyfyngus, ac mae'n galw am newid y gyfraith er mwyn caniatáu i feddi gael eu hailddefnyddio.
Mae'n galw am yr hawl i godi gweddillion cyrff ar ôl 75 mlynedd - os nad yw teuluoedd yn gwrthwynebu - a'u hail gladdu mewn eirch llai er mwyn creu mwy o le i gladdedigaethau eraill.
Dywedodd eu prif weithredwr Julie Dunk: "Oherwydd y pwysau ar dir yn sgil datblygiadau a thai, dyw hi ddim wastad yn bosibl i ddod o hyd i ofod ar gyfer mynwent newydd.
"Hyd yn oed os ydyn nhw'n adeiladu mynwent newydd, mae'n rhaid parhau i gynnal a chadw'r rhai presennol, sy'n ddyletswydd ar gyngor, oherwydd nad oes claddedigaethau newydd, mae'r baich ariannol yn disgyn ar awdurdodau lleol.
Tra bod amlosgi wedi bod ar gynnydd ers yr Ail Ryfel Byd, ychwanegodd Ms Dunk fod llawer o bobl yn dal i ddymuno cael eu claddu am resymau diwylliannol a phersonol, gyda rhai crefyddau - gan gynnwys crefydd Islam - ond yn caniatáu claddedigaethau.
"Os na weithredwn ni, fe allen ni fod yn gwrthod hawl crefyddol pobl."