Cwmnïau Cymreig i drafod newid hinsawdd mewn cynhadledd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pam fod disgyblion Cymru mor angerddol am yr amgylchedd?

Mae disgwyl i rai o gwmnïau mwyaf Cymru egluro'r camau maen nhw'n bwriadu eu cymryd i helpu atal newid hinsawdd mewn cynhadledd fore Mercher.

Y disgwyl yw y bydd dros 300 o fusnesau, sefydliadau sector cyhoeddus ac arweinwyr cymunedol yn bresennol yng Nghaerdydd.

Cafodd ymgyrchwyr Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) wahoddiad gan Lywodraeth Cymru i rannu eu syniadau hefyd.

Yn ôl y gweinidog amgylchedd, Lesley Griffiths, mae'n gobeithio bydd y gynhadledd yn arwain at "gydweithio" er mwyn lleihau allyriadau.

Bydd Cymru'n gosod targed cyfreithiol newydd y flwyddyn nesaf i ostwng nwyon tŷ gwydr 95% erbyn 2050 - o gymharu â lefelau 1990.

Mae'n dilyn cyngor gan arbenigwyr y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, a ddywedodd y byddai hyn yn gyfraniad priodol i darged y Deyrnas Unedig i sicrhau targed 'sero net' erbyn yr un flwyddyn.

Mae 'sero net' yn golygu i bob pwrpas dileu nwyon tŷ gwydr o'n heconomi a'n ffordd o fyw - heb anfon mwy i'r atmosffer nag y gallwn ei amsugno yn ôl drwy goed neu dechnolegau newydd.

Targed realistig?

Ond mae Ms Griffiths yn bwrw amheuaeth ar ymarferoldeb gweithredu'n gynt wedi galwadau am hyn o fewn ei phlaid ei hun.

Wrth siarad â gohebwyr cyn y gynhadledd, cafodd ei holi am gynnig cafodd ei gymeradwyo yng nghynhadledd Plaid Lafur y DU, sef cefnogi targed sero net erbyn 2030.

"Yn bersonol, ar hyn o bryd, dwi ddim yn meddwl ei fod yn bosib," meddai.

"Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn dweud wrthai na all Cymru ei wneud erbyn 2050 ar hyn o bryd - a dyna pam ry'n ni wedi gosod targed o ostyngiad o 95% mewn allyriadau erbyn 2050.

"Fodd bynnag, rydyn ni wedi dweud bod gyda ni'r uchelgais i fod yn sero net."

Mae'r Gynhadledd Gyntaf ar Newid Hinsawdd wedi ei threfnu ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi argyfwng hinsawdd fis Ebrill ac mae disgwyl y bydd yn ddigwyddiad blynyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Siân Stephen bod yn rhaid "gweithredu ar frys" ar newid hinsawdd

Mae gweinidogion yn dweud y bydd yn helpu i lywio ymateb Cymru i uwchgynadleddau'r Cenhedloedd Unedig yn y dyfodol ar gynhesu byd-eang a hefyd i sicrhau cynllun gweithredu newydd ar newid hinsawdd fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2021.

Ond mae arweinwyr busnes yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth a chyngor ar gwmnïau.

Yn ôl Ben Francis, Cadeirydd Polisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, mae nifer o gwmnïau eisoes yn cymryd "camau arloesol i leihau eu hôl troed carbon".

Ond galwodd am "bolisi sy'n gosod y cyfeiriad ar gyfer y tymor hir, fel bod busnesau'n teimlo'n hyderus eu bod nhw'n gwybod beth sydd angen ei wneud ac erbyn pryd".

"Er enghraifft, wrth brynu car neu chwilio am adeilad, sut y gall busnes bach a chanolig fynd ati i wneud hyn yn y ffordd fwyaf carbon effeithiol."

Dywedodd fod angen sgwrs nid yn unig am "orfodaeth ond hefyd am gyfleoedd i fusnesau ac economi ehangach Cymru".

'Gobeithiol am Gymru'

Yn ogystal â mynychu'r gynhadledd, mae ymgyrchwyr Gwrthryfel Difodiant yn bwriadu llwyfannu gwrthdystiad y tu allan.

Dywedodd Siân Stephen o'r grŵp eu bod yn croesawu'r penderfyniad i gynnal y gynhadledd.

"Ond i ni'r peth pwysig nawr yn dilyn y datganiad o argyfwng newid hinsawdd ym mis Ebrill yw gweithredu - a gweithredu brys," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-chwaraewr rygbi, Richard Parks fydd llysgennad newid hinsawdd cyntaf Llywodraeth Cymru

Yn ystod y dydd bydd cyhoeddiad mai'r athletwr campau eithafol a chyn-chwaraewr rygbi Cymru, Richard Parks, fydd y llysgennad newid hinsawdd cyntaf.

Dywedodd ei fod yn gyffrous i weithio gyda Llywodraeth Cymru i baratoi at uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd yng Nglasgow'r flwyddyn nesaf.

"Ar ôl cael profiad uniongyrchol o'r effaith y mae newid hinsawdd yn ei gael ar ein byd, mae'n amser tyngedfennol i amddiffyn ein planed ar gyfer ein plant," meddai.

"Rwy'n falch bod ein Senedd yn chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrech i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

"Rwy'n obeithiol oherwydd 'da ni wastad yn cyflawni mwy na'r disgwyl yma yng Nghymru."