Cannoedd o ddisgyblion yn protestio am newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pam fod disgyblion Cymru mor angerddol am yr amgylchedd?

Mae ymgyrchwyr ifanc yn dweud eu bod yn fodlon "aberthu eu haddysg" er mwyn gorfodi gweithredu ar newid hinsawdd.

Mae cannoedd o ddisgyblion ysgolion ar draws Cymru wedi gadael y dosbarth yn mwyn bod yn rhan o Ddiwrnod Streic Hinsawdd y Byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd ac wedi gosod targedau uchelgeisiol am allyriadau carbon, ond mae protestwyr yn galw am fwy.

Dywedodd un o'r protestwyr yng Nghaerdydd, Beth Irving: "Pe byddai gen i ddewis arall, fyddwn i ddim yn 'chwarae mig' fel mae rhai pobl yn ei alw fo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r protestiadau yn cael eu cynnal yn Aberystwyth

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r protestwyr ym Mhrifysgol Bangor cyn gorymdaith i ganol y ddinas

"Fodlon aberthu ein haddysg"

"Mae pobl yn dechrau gwrando arnom ni am ein bod ni'n herio'r system.

"Ry'n ni'n fodlon aberthu ein haddysg er mwyn cael pobl i siarad am hyn a gweithredu."

Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yng nghanol Caerfyrddin

Dechreuodd protestiadau Cymru yn Nhywyn, Gwynedd, fore Gwener cyn lledu i Drefynwy. Bellach mae protestiadau mewn 11 o lefydd ar draws y wlad gyda mwy i ddilyn yn y prynhawn.

Mae protestiadau Rhwydwaith Hinsawdd Myfyrwyr y DU yn cael eu cynnal yn Abertawe, Wrecsam, Aberhonddu, Bangor a llefydd eraill.

Mae staff a myfyrwyr Coleg y Cymoedd wedi cefnogi'r ymgyrch yn holl gampysau'r sefydliad - yn Ystrad Mynach, Aberdâr, Rhondda a Nantgarw.

Dywedodd y pennaeth, Karen Phillips, ei fod yn bwysig "i gefnogi ein dysgwyr", ac fel rhan o'r "ymroddiad fel corff i fynd i'r afael â heriau cynhesu byd-eang" fe fydd y coleg yn "herio dysgwyr a staff i fabwysiadu ymarferion mwy gwyrdd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae hyd at 500 o bobl wedi cymryd rhan yn y brotest yn Aberystwyth

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, yn cytuno gyda'r myfyrwyr, gan ddweud nad yw'r wlad "yn gweithredu ar y raddfa na'r cyflymder sydd angen".

"Mae effaith newid hinsawdd eisoes yn amlwg yng Nghymru gyda 23% o'n harfordir yn erydu oherwydd bod lefel y môr yn codi, a'r risg o golli un o bob 14 o'n rhywogaethau bywyd gwyllt," meddai.

"Ac eto, y genhedlaeth ifanc sy'n arwain y ddadl ac yn dal y llywodraethau i gyfrif am beidio gweithredu ar newid hinsawdd."

Disgrifiad o’r llun,

Rhieni'n ymuno gyda phlant yn Nhrefynwy