Colofn Ken: "Un gêm ar y tro yw hi"
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru ymysg yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019. Ffrainc yw'r gwrthwynebwyr i garfan Warren Gatland dydd Sul gyda lle yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn De Affrica neu Japan yn y fantol.
Gyda Chymru ond tair buddugoliaeth i ffwrdd o fod yn bencampwyr byd, mae bachwr Cymru a'r Scarlets Ken Owens yn asesu y sefyllfa yn ei golofn ddiweddara':
Yr wyth ola'
Wel mae pethe' bach yn wahanol nawr bo' ni drwodd i'r chwarteri. Gyda'r pedair gêm gynta', ma'r pwyse mlaen i neud yn siŵr bod chi'n perfformio ac yn cael y buddugoliaethau fel bo' chi mas 'ma am fwy na' mis. Mae hi'n grêt bo' ni 'di dod mas o'r grŵp - grŵp caled 'fyd ac yn fwy na 'ny, bo' ni 'di gorffen ar y top.
Ydy, ma'r bocs cyntaf wedi ei dicio a'r targed cynta' wedi ei gyrraedd ond dyma'r dechreuad i ni nawr.
O'n i 'ma pedair blynedd yn ôl gyda nifer o anafiadau cyn y twrnamaint, yn ystod y twrnamaint ac yna gollon ni yn y chwarteri yn erbyn De Affrica gyda chais yn y munudau ola'. 'Odd hwnna'n siom enfawr ond r'yn ni mewn lot gwell lle tro 'ma, a nawr ni'n edrych 'mlaen at gêm enfawr ddydd Sul a gobeithio byddwn ni 'ma tan y diwedd.
2011
Ma' lot o sôn 'di bod am gêm Cymru yn erbyn Ffrainc wyth mlynedd yn ôl. O'n i'n rhan o'r garfan ond o'n i'n gweithio gyda Charlo yn y bocs sylwebu gyda Radio Cymru! 'Odd hi'n gêm od, a wna' i fod yn onest, do'n i ddim cweit yn siŵr a o'dd Sam Warburton yn haeddu cerdyn coch ai peidio.
Beth o'dd fwya' caled i gymryd odd bo' ni dal yn ddigon da - hyd yn oed gyda 14 dyn ar y cae - i ennill y gêm. Dyna'r siom fwya' ond 'na shwt ma' rygbi yn mynd, ac o'dd Ffrainc yn haeddu mynd i'r ffeinal a bron curo Seland Newydd. Ond fel carfan dy'n ni ddim wedi siarad am hwnna o gwbl.
Ffrainc: 'chi jest byth yn gwybod be' sy'n dod'
Ni bron yn grŵp hollol wahanol - dim ond rhyw dri neu bedwar ohonon ni sy' dal o gwmpas - ond ni wedi cael tipyn o lwyddiant yn erbyn Ffrainc dros y blynydde' dwetha' a ni'n eithaf hyderus yn mynd mewn i'r gêm ddydd Sul.
Gyda Ffrainc, chi jest byth yn gwybod be' sy'n dod - ydy ma' fe'n cliché fi'n gwybod! Gath eu gêm nhw yn erbyn Lloegr ei galw bant felly mae'n galed gwybod pwy ma' nhw'n mynd i bigo o ran tîm! Ond ni jest angen canolbwyntio ar ein hunain, a be' ni'n gallu rheoli.
Oes, ma' sôn bod chaos 'di bod gyda Ffrainc ond ydy hwnna'n rhywbeth newydd?! Ma' nhw'n dîm da iawn, gyda chwaraewyr hynod o dalentog. Ni 'di cael pethe yn digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf off y cae, a ma' fe'n gallu dod â thîm at ei gilydd.
Ond ni'n gwybod bod angen i ni ddod â pherfformiad 80 munud at ei gilydd ddydd Sul ac wedyn byddwn ni ddim yn becso lot am Ffrainc!
Gêm ola' Gatland?
Ni ddim 'di siarad am y posibilrwydd taw dyma gêm ola' Warren Gatland o gwbl. Mae Alun Wyn wedi siarad am y cyfle dydd Sul i sicrhau'r hawl i chwarae gêm arall - gêm alle newid ein bywydau ni a chreu hanes.
Ond 'na gyd ni'n siarad amdano fe. Un gêm ar y tro yw hi - does 'na ddim sôn wedi bod am bwy sy'n aros a phwy sy'n mynd.
Tynnu coes Carré
Un peth doniol i rannu 'da chi. Falle bo' chi 'di sylwi ar Rhys Carré y prop yn cario llwy garu o gwmpas y lle gyda fe (gan taw fe yw aelod ifanca'r garfan).
Wel ma' fe wedi colli'r llwy cwpl o weithiau! Cyn y gêm gynta' yn erbyn Georgia, o'dd e'n bedroom fi am dri diwrnod! Nes i guddio fe ond dim fi nath ddwyn e - wir! Nath e ddechrau poeni bo' fe methu ffeindio fe rhyw hanner awr cyn i ni adael ar y bws i fynd i'r cae i whare! Mae e 'di colli fe cwpl o weithiau ond hwnna odd yr hira'! Ma' fe di bod yn eitha da wythnos hyn whare teg!
Cyn mynd, 'wy jest moyn dweud diolch am y gefnogaeth ni 'di cael trwy gydol y gystadleuaeth - ni wir yn gwerthfawrogi.
Croesi bysedd bydda i nôl i neud colofn arall wythnos nesa'!
Ken