Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru 35-13 Uruguay
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth i Gymru a phwynt bonws yn Kumamoto ond roedd Warren Gatland ychydig yn siomedig gyda pherfformiad ei dîm yn erbyn Uruguay.
Gyda 13 newid i'r tîm drechodd Fiji, roedd nifer o chwaraewr am brofi pwynt i'r hyfforddwr ac fe ddechreuodd Cymru yn gryf yn ôl y disgwyl.
Er y sgôr, sy'n sicrhau mai nhw sy'n gorffen ar frig y grŵp ac yn wynebu Ffrainc yn yr wyth olaf, roedd yna nifer o wallau o'r dwylo.
Cyn i'r chwarae ddechrau dydd Sul, roedd munud o dawelwch yn y stadiwm i gofio am y sawl sydd wedi colli eu bywydau yn sgil teiffŵn Hagibis.
Ar ôl y gêm dywedodd Gatland: "Rwy'n hapus o ennill pedair allan o bedair ond ddim yn rhy hapus gyda 'chydig o heno - sâl ar adegau a cholli'r bêl gormod o weithiau.
"Fe wnaethom fethu pedwar neu bump o gyfleoedd ond fe wnaethom ddangos ychydig o gymeriad.
"O bosib wnaethom ni ddim rhoi digon o ymdrech i gadw'r bêl, yn yr ail hanner roeddem yn fwy uniongyrchol gan ennill yr hawl i chwarae."
'Creadigol'
Daeth y cais cyntaf wedi 16 munud, blaenwyr Cymru yn mynd trwy deg cymal o'r chwarae cyn i'r prop Nicky Smith groesi.
Er i Gymru reoli'r gêm a'r tiriogaeth ni wnaeth amddiffyn y gwrthwynebwyr wegian dan y pwysau.
Roedd yna fflachiau creadigol gan Gymru ond tarodd Uruguay yn ôl gyda chic gosb gan Felipe Berchesi wrth i Gymru gamsefyll.
Gydag Uruguay dan bwysau, tro olwyr Cymru oedd hi i geisio creu argraff.
Fe wnaeth bylchiad gan Josh Adams greu cyfle i Hallam Amos groesi, ond yn anffodus roedd pas Hadleigh Parkes i Amos ymlaen.
Daeth cic gosb arall i Felipe Berchesi i roi Uruguay o fewn pwynt i Gymru, mewn hanner wnaeth brofi'n rhwystredig ac yn llawn gwallau gyda'r dwylo.
Roedd yna well disgyblaeth gan Gymru wedi'r hanner.
O'r cychwyn fe wnaeth y blaenwyr roi pwysau mawr ar linell y gwrthwynebwyr gyda Adam Beard yn mynd yn agos, dim ond i'r amddiffyn gadw'n gadarn wrth y pyst,
Cerdyn melyn
O'r symudiad daeth y bêl i'r asgell gyda Josh Adams yn croesi o bas Rhys Patchell.
Gyda Chymru yn dangos gwell disgyblaeth, daeth cyfle eto ar yr asgell ac fe groesodd Amos - unwaith eto roedd pas olaf Parks ymlaen.
Parhau i bwyso wnaeth Cymru, ac fe gafodd Santiago Civetta gerdyn melyn am droseddu cyson.
Daeth cais gosb i Gymru funudau wedyn, wrth i Uruguay gael eu cosbi am gwympo'r sgarmes rydd.
Doedd ymdrechion Uruguay ddim ar ben, ac ar ôl eu cyfnod gorau o bwyso, daeth cais i'r prop German Kessler i leihau'r bwlch i wyth pwynt.
Ond yna daeth cais arall i Gymru, bwlch gan Halfpenny, gyda Tomos Williams ddaeth i'r cae yn lle Aled Davies yn croesi o bump metr i wneud y gêm yn gwbl ddiogel.
A daeth un cais arall, gyda Gareth Davies yn chwarae ar yr asgell, yn pigo'r bêl o'r llawr o gic rydd gan redeg hanner hyd y cae i sgorio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd29 Medi 2019
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019