ASau Llafur i 'edrych i fyw llygaid etholwyr' os am wrthod Brexit

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns fod 80% o ASau San Steffan wedi'u hethol i barchu canlyniad y refferendwm yn 2016

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud bydd ASau Llafur mewn ardaloedd wnaeth bleidleisio i adael yr UE yn "gorfod edrych i fyw llygaid etholwyr" pe byddan nhw'n gwrthod cytundeb Brexit newydd y Prif Weinidog.

Dywedodd Alun Cairns fod 80% o ASau San Steffan wedi'u hethol i barchu canlyniad y refferendwm yn 2016.

Lleddfodd bryderon ynglŷn â hawliau gweithwyr, gan ychwanegu y byddai'r cytundeb yn gwneud Cymru'n fwy cyfoethog.

Dywedodd AS Llafur Pontypridd Owen Smith, sy'n gwrthwynebu Brexit, ei fod yn credu y bydd rhai o'i gyd-aelodau yn pleidleisio o blaid y cytundeb ddydd Sadwrn.

Ond ychwanegodd ei fod yn credu fod y cytundeb yn un "diofal" o ran Gogledd Iwerddon ac yn "niweidiol iawn" i weddill y DU.

Mae Boris Johnson wedi datgan ei fod yn disgwyl pleidlais agos iawn yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Sadwrn.

'Diofal'

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Cairns: "Dyma'r amser i weithredu ar gyfarwyddyd ble mae 80% o ASau'n sefyll ar faniffesto i gwblhau Brexit.

"Felly, rwy'n dweud wrth ASau o bob plaid sy'n sefyll ar faniffesto sy'n dweud y byddan nhw'n parchu canlyniad y refferendwm ac yn cwblhau proses Brexit - dyma'r amser i wneud hynny.

"Bydd rhaid iddyn nhw edrych i fyw llygaid eu hetholwyr yn y dyfodol agos i ddweud eu bod wedi pleidleisio yn erbyn eu dymuniadau os byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y cytundeb diweddaraf.

"Dwi'n credu bod y cytundeb yma'n ateb galwadau'r cyhoedd, ateb gofynion busnes ac yn ateb y cyffro sydd ynglŷn â'r cyfleoedd fydd yn dod o adael yr UE."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Davies bod y cytundeb newydd yn "gyfaddawd gwych"

Fe wnaeth Mr Cairns wrthod y syniad y byddai'r cytundeb yn arwain at gwmnïau cludiant yn Iwerddon yn osgoi porthladdoedd Cymru i gario eu nwyddau i dir mawr Ewrop.

Dywedodd fod buddsoddiad sylweddol yn digwydd i borthladd Caergybi ac y byddai "cyfleoedd gwych i gyflogi rhagor yn yr ardal".

Mae darpariaethau ar gyfer hawliau gweithwyr wedi'u tynnu o'r cytundeb, ond fe wnaeth Mr Cairns wrthod y syniad y byddai'r cytundeb yn arwain at wanhau eu hawliau.

Yn gynharach fe wnaeth AS Mynwy, David Davies annog ASau Llafur i "fod yn onest" a chefnogi cytundeb Brexit newydd Mr Johnson.

Dywedodd Mr Davies, wrth BBC Cymru: "Rwy'n gwybod fod yna ASau Llafur sydd am gefnogi'r cytundeb... maen nhw angen bod yn onest gyda nhw'u hunain."

Ond mae cyn-Ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon, yr Arglwydd Hain wedi dweud na fydd Brexit "yn dod i ben gyda'r ddêl yma".

Roedd yntau'n rhagweld "blynyddoedd o ansicrwydd" wrth i Brydain ddechrau trafod cytundebau masnachu "gyda'r UE a 70 o wledydd eraill".

'Cytundeb dda'

Dywedodd Mr Davies, oedd yn ymgyrchydd brwd o blaid Brexit cyn refferendwm 2016: "Rhaid i Lafur benderfynu nawr. Ydyn nhw yn erbyn Brexit - ac os ydyn nhw fe ddylen nhw ddweud hynny a bod yn onest gyda'r cyhoedd - neu ydyn nhw am bleidleisio o blaid y cytundeb.

"Ry'n ni wedi clywed sôn di-ben-draw am sut y bydd 'dim cytundeb' yn arwain at Armageddon - dydw i ddim y credu hynny cofiwch, ond os ydych chi'n credu hynny yna pleidleisiwch dros y cytundeb yma.

"Mae digon o bobl sydd am bleidleisio gyda ni... rwy'n gwybod yn breifat bod nifer o ASau Llafur sydd am i'r cytundeb yma lwyddo. Maen nhw'n cydnabod fod pobl wedi pleidleisio i adael.

"Does neb yn mynd i gael yn union beth maen nhw am ei gael. Ar ddiwedd y dydd mae hwn yn gyfaddawd gwych... mae'n gweithio i bawb."

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi arwain llythyr trawsbleidiol at y Canghellor Sajid Javid yn ei annog i gyhoeddi asesiadau o effaith economaidd y cytundeb newydd cyn y bleidlais yno ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n poeni am sefydlogrwydd tymor hir a'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon," meddai Peter Hain

Dywedodd: "Os ydi Boris Johnson mor hyderus bod y cytundeb yma'n un da, pa reswm da sydd ganddo dros wrthod datgelu manylion allweddol i Dŷ'r Cyffredin?

"Mae'n annheg gofyn i ASau fod yn rhan o bleidlais allai gael goblygiadau difrifol i'n gwlad am ddegawdau i ddod heb roi digon o amser i ni graffu ar y manylion.

O dan dermau'r cytundeb newydd byddai Gogledd Iwerddon yn parhau'n rhan o undeb dollau'r DU, ond fe fyddai nwyddau sy'n mynd i Iwerddon a marchnad sengl Ewrop yn cael eu gwirio ar y ffordd.

Mae'r Arglwydd Hain yn bryderus am hynny.

"Rwy'n poeni am sefydlogrwydd tymor hir a'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon," meddai.

"Cofiwch, fydd Brexit ddim ar ben gyda'r cytundeb yma. Megis dechrau ar flynyddoedd o ansicrwydd fydd hyn wrth i Brydain geisio trafod cytundebau masnach gyda'r UE a 70 o wledydd eraill."

'Perthynas lewyrchus'

Gydag ASau'n pleidleisio'r penwythnos hwn, bydd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn ymweld â Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ddydd Gwener.

Bydd yn dweud wrth arweinwyr busnes yno fod Cymru am gadw perthynas gref gyda chwmnïau ar draws ynys Iwerddon beth bynnag fydd yn digwydd gyda Brexit.

"Byddaf yn pwysleisio pwysigrwydd sylfaenol y berthynas sydd gan Gymru gydag ynys Iwerddon a gyda chydweithwyr ym Melffast a Dulyn hefyd, a sut yr ydym am sicrhau fod y berthynas yna fod yn llewyrchus ac agos yn y dyfodol," meddai.