Arholiadau TGAU 'ddim yn ffit i bwrpas a dylid eu dileu'
- Cyhoeddwyd
Dydy arholiadau TGAU ddim yn ffit i bwrpas a dylid eu dileu a chael mwy o asesiadau ar sail sgiliau disgyblion, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywed Sophie Howe bod "obsesiwn gydag arholiadau" ddim yn rhoi'r sgiliau cywir y mae pobl ifanc eu hangen.
Wrth lawnsio adroddiad ar ddyfodol addysg yng Nghymru, mae'n galw am asesiadau mwy amrywiol sy'n canolbwyntio ar y disgybl.
Bydd cwricwlwm newydd sy'n disodli pynciau traddodiadol yn dod i rym yn 2022.
Tystiolaeth ryngwladol
Ar raglen BBC Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Howe bod y drefn arholiadau bresennol "yn y bôn, yn profi gwerth plentyn ar faint o wybodaeth maen nhw'n gallu ei chwydu mewn arholiadau dwy awr".
Dyw'r drefn, meddai, ddim ar sail sgiliau "y mae'r holl dystiolaeth ryngwladol yn dweud wrthym y bydd eu hangen yn y dyfodol".
Mae'n cyfeirio at dasgau "na allai robotiaid ei wneud, na deallusrwydd artiffisial (AI)... deallusrwydd emosiynol, empathi, cydweithredu, gwaith tîm, meddwl critigol".
Dywedodd Cymwysterau Cymru, sy'n adolygu'r drefn TGAU a chymwysterau, y bydd yn rhaid iddyn nhw newid er mwyn targedu sgiliau ehangach sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Mae arholiadau TGAU newydd ar gyfer Cymru yn unig wedi eu cyflwyno fesul cam ers Medi 2015, gan arwain at newidiadau mawr o ran dysgu iaith Cymraeg, iaith Saesneg a mathemateg.
Bydd yna adolygiad eto unwaith y daw'r cwricwlwm newydd i rym.
Yn ôl Ms Howe, os na fydd TGAU wedi newid o gwbwl erbyn dechrau'r cwricwlwm newydd, bydd disgyblion blynyddoedd wyth a naw yn symud at addysg ar sail sgiliau ehangach, sy'n anghydnaws â "dysgu ar gyfer arholiadau".
"Mae'r cwricwlwm newydd ar gyfer y disgyblion ieuengaf yn canolbwyntio ar sut gallwn ni ddysgu am newid hinsawdd, er enghraifft, trwy fathemateg, gwyddoniaeth, hanes, beth fyddai'n ei olygu i'r economi a dyna'r union gyfeiriad y dylen ni anelu ato.
"Ond mae'r system arholiadau bresennol yn canolbwyntio ar chwydu gwybodaeth a dydy hynny ddim yn ffit ar gyfer y dyfodol."
Paratoi ac ysbrydoli disgyblion
Mae wedi cyhoeddi adroddiad sy'n cynnig syniadau amgen, gyda'r bwriad o gychwyn sgwrs genedlaethol ar y pwnc.
Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, yr Athro Calvin Jones, bod angen ystyried rhinweddau a gwendidau disgyblion unigol, yn hytrach na'u gweld "yn nhermau gradd neu farc allan o 100".
Mae trefn felly, meddai, yn rhoi "gwell syniad" i bobl ifanc dros 16 oed "sut gallan nhw ddatblygu gyrfa lwyddiannus".
Dywedodd Ms Howe bod angen symud at fwy o asesiadau gan athrawon eu hunain, ac ystyriaeth o allu disgyblion i gyflwyno gwybodaeth a chydweithio.
Mae'r adroddiad wedi cael ei groesawu gan Philip Baker ar ran Cymwysterau Cymru, sy'n lawnsio ymgynghoriad ym mis Tachwedd, gyda'r disgwyl y bydd yn cadarnhau newidiadau y flwyddyn nesaf.
"Bydd yn rhaid i gymwysterau newid os ydyn nhw am wireddu uchelgais y cwricwlwm newydd ac ymateb i anghenion dysgwyr a'r gymdeithas," meddai.
"Rydym yn credu bod yna achos cryf o hyd dros gymwysterau ar gyfer disgyblion 16 oed sy'n helpu eu paratoi a'u hysbrydoli o ran bywyd, addysg a gwaith.
"Byddwn yn edrych ar sut gellid dylunio ac asesu cymwysterau'n wahanol yn y dyfodol, ac yn gofyn a ddylid cadw enw'r TGAU".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2019
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019