Brexit: Rhaid gofyn am estyniad, medd Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Drakeford a Johnson

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod rhaid i Boris Johnson "ufuddhau i'r gyfraith" a gofyn am estyniad i osgoi Brexit heb gytundeb.

Pleidleisiodd ASau o blaid gwelliant i gytundeb Brexit Mr Johnson yn galw am oedi'r broses unwaith eto.

Cafodd gwelliant Oliver Letwin, oedd yn datgan nad yw Tŷ'r Cyffredin yn mynd i gymeradwyo'r cytundeb cyn pasio deddfwriaeth sy'n gysylltiedig, ei basio o 322 i 306.

Mae'n golygu ei fod yn ofynnol i Mr Johnson ofyn am estyniad dan gyfraith Benn, er iddo ddweud brynhawn Sadwrn nad oedd yn fodlon trafod estyniad gyda'r UE.

Mae hefyd yn golygu na fydd pleidlais ar y cytundeb Brexit yn ddiweddarach, ar ôl i'r llywodraeth dynnu'n ôl.

Mae disgwyl pleidlais arall ar y cytundeb ddydd Llun.

'Colli cyfle'

Wrth ymateb i'r bleidlais dywedodd Mr Johnson fod y "cyfle i gael pleidlais ystyrlon wedi'i golli".

Ychwanegodd nad oedd wedi synnu na'i ddigalonni bod ASau wedi cefnogi gwelliant Letwin ac na fyddai'n trafod oedi gyda'r UE.

Dywedodd y byddai'n parhau'n "ddi-ofn" gyda'i strategaeth Brexit.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Catrin Haf Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Catrin Haf Jones

Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar ei gyfrif Twitter, dolen allanol bod yn rhaid i Mr Johnson "ufuddhau i'r gyfraith" a gofyn am estyniad er mwyn osgoi gadael heb gytundeb.

Ychwanegodd bod y "cytundeb yma yn un gwael i Gymru - ein heconomi a'n swyddi".

"Rhaid gwella y cytundeb gadael fel bod modd i'r mater fynd yn ôl at y bobl trwy refferendwm."

Disgrifiad,

Yn õl David Davies, AC Mynwy, mae'r canlyniad yn siom i'r rhai a bleidleisiodd dros Brexit yn 2016

Wedi'r bleidlais dywedodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, bod canlyniad y bleidlais yn "siom" i'r 17.4m o bobl wnaeth bleidleisio dros Brexit yn 2016.

Dywedodd bod cyfle i "ddatrys" Brexit wedi ei fethu ddydd Sadwrn, ac yn hytrach byddai'n golygu "mwy o oedi".

'Amser i ddadansoddi'

Dywedodd Stephen Kinnock, AS Llafur Aberafan, bod "pasio gwelliant Letwin yn golygu bod y Senedd wedi gwneud pob dim posib i gael gwared ag ymadael heb gytundeb, sef y trap yr oedd y llywodraeth wedi'i osod".

"Mae'r canlyniad yn golygu bod gan ASau amser a gofod i ddadansoddi'r Cytundeb Ymadael yn llawn.

Disgrifiad,

"Rhaid i Boris Johnson barchu'r gyfraith," medd Liz Saville Roberts

"Mae amser nawr i gael trafodaeth lawn a chraffu ar gytundeb Johnson."

Dywedodd arweinydd seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, bod y Senedd "wedi cymryd safbwynt cryf yn erbyn cytundeb trychinebus Boris Johnson".

"Mae'n rhaid iddo rŵan barchu'r gyfraith a gofyn am estyniad fel y gallwn ni roi'r cwestiwn yn ôl i'r bobl."

Wrth siarad ar raglen arbennig ar Radio Cymru dywedodd Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin: "Fi'n credu bod ASau ddim yn ymddiried yng ngair y prif weinidog - bydd rhaid nawr i Lywodraeth Prydain amlinellu ei hamcanion mewn deddfwriaeth - mae heddiw yn gyfle i ASau graffu cyn roi sêl bendith.

"Ai Hydref 31 yw'r peth pwysicaf yn y byd neu sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cael ei scrwtineiddio?

"Bydd y penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud yn ail ran o'r broses - yr adeg honno bydd amaeth a'r economi yn cael eu trafod."

Wrth i welliant Letwin gael ei basio roedd bonllefau o gymeradwyaeth y tu allan i San Steffan gan ddegau o botestwyr, pobl o Gymru yn eu plith, sydd wedi teithio i Lundain i alw am refferendwm arall.

'Estyniad pellach?'

Dywedodd y bargyfreithiwr Gwion Lewis wrth BBC Cymru, "nad yw Brexit yn debygol o ddigwydd ar Calan Gaeaf".

Ychwanegodd: "Da ni'n mynd ar ein pennau yn ôl i'r llys yn hyn o beth.

"Prif arwyddocâd heddiw yw creu amser i brosesau seneddol graffu ar yr hyn sy'n cael ei gynnig a dwi'n sicr y bydd nifer o welliannau yn cael eu cynnig

"Yn anochel bydd estyniad pellach."