Pryder lleol am gynlluniau cartref plant yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Han y Bont
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd, mae'r tŷ yn eiddo i'r Athro Marc Clement, gafodd ei ddiswyddo yn ddiweddar fel Deon yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe

Mae cwmni sy'n bwriadu agor cartref preifat ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, wedi gwadu yn llwyr fod yna gynlluniau i osod troseddwyr ifanc yno.

Mae Freshstart Care Ltd wedi cyflwyno cais cynllunio i droi tŷ lled-wahanedig yn gartref i blant a phobl ifanc rhwng 11-18 oed mewn tŷ o'r enw Han y Bont yn Erw Las, Llwynhendy.

Mae posteri wedi cael eu gosod ar y stryd gan bobl leol, sydd yn pryderu y gallai troseddwyr ifanc gael eu gosod yno.

Mae yna wrthwynebiad ffyrnig yn yr ardal i'r cynllun i agor cartref ar y stryd dawel.

'Bregus a difreintiedig'

Am y tro cyntaf, mae'r cwmni sydd yn gyfrifol am y cynllun wedi ymateb i'r pryderon yn gyhoeddus, trwy ddweud mai plant "bregus a difreintiedig" fydd yn byw yn y cartref sydd ar hyn o bryd "yng ngofal yr awdurdodau lleol".

Mae cwmni Freshstart Care Ltd yn honni na fyddan nhw yn rhoi "llety i blant sydd o fewn y system gyfiawnder" ac fe fydd yna "broses gyfeirio caeth".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Nia Griffith yn gwrthwynebu'r cais, ac yn galw ar Gyngor Sir Gâr i wneud yr un peth

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fydd yn ystyried y cais cynllunio, wedi cyflwyno gwrthwynebiad cryf.

Mae'r awdurdod wedi dweud na fyddan nhw'n defnyddio'r cartref, a taw plant o awdurdodau lleol eraill fydd yno.

Mewn gwrthwynebiad ysgrifenedig, mae'r cyngor yn dweud "nad ydyn nhw'n defnyddio cartrefi preifat ar gyfer plant sydd yn derbyn gofal, felly fe fydd y cartref arfaethedig yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol eraill".

"Mae Sir Gâr eisoes yn derbyn tua'r un nifer o blant mewn gofal o siroedd eraill a'r nifer sydd yn dod o Sir Gaerfyrddin," meddai.

'Dim galw gan blant lleol'

Yn ôl y cyngor, bydd y cartref yn rhoi gwaith ychwanegol i'w timoedd asesu, ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd ac addysg.

Mae Cyngor Sir Gâr yn dweud bod awdurdodau yn barod i dalu hyd at £5,000 yr wythnos i osod plant yng ngofal darparwyr preifat.

Mewn datganiad pellach i Gyngor Sir Gâr, fe ddywedodd cyfarwyddwr cymunedau'r cyngor, Jake Morgan, bod yna 180 o blant o awdurdodau lleol eraill yn y sir sydd eisoes yn rhoi straen ar wasanaethau addysg ac iechyd.

"Mae'r gost o ddarparu'r gwasanaeth yma yn amrywio o £3,000-£5,000 yr wythnos, a does dim galw gan blant lleol, felly fe fydd rhai o'r plant mwyaf bregus ar draws Cymru a Lloegr yn defnyddio'r cartref," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Steve Donoghue y byddai'r cynlluniau'n rhoi straen ar wasanaethau

Mae'r cynghorydd cymuned, Steve Donoghue, yn teimlo y bydd y cais yn straen ar yr ardal.

"Mae digon o broblemau 'da ni yn yr ardal ar hyn o bryd. Mae'r heddlu yn stretched beyond limits," meddai.

"Mae toriadau i'n gwasanaethau ni, i'r NHS, a beth sydd yn mynd i ddigwydd yw, mae hwn yn mynd i ddodi mwy o straen ar y gwasanaethau sydd 'da ni i'r bobl sydd yn byw yma yn barod."

'Peryglus iawn'

Mae'r AS Nia Griffith, hefyd yn gwrthwynebu'r cais, ac yn galw ar Gyngor Sir Gâr i wneud yr un peth.

"Yn ein sir ni, 'da ni ddim yn preifateiddio gofal plant. Beth ni'n gweld yw cwmni sydd wedi cael ei greu yn arbennig i wneud rhywbeth fel hyn. Dim cofnod a dim profiad," meddai.

"Mae'r ardal hefyd yn anaddas. Os chi eisiau plant i integreiddio, does dim palmant, dyw e ddim yn addas i seiclo, mae'n beryglus iawn, mae'n dywyll, a dyw e ddim yn addas i blant o gwbl.

"A'r ffaith yw does dim digon o le. Mae'n semi-detached. Sut maen nhw'n gallu gwneud hyn yn broffesiynol?

"Y ffaith yw, mae'n well i'r plant i gysylltu â'r ardaloedd ble maen nhw wedi cael eu codi. Dw'i ddim yn gweld e'n gwneud unrhyw sens i roi plant mewn yn rhywle fel Erw Las. Mae lot fawr o bryderon."

Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd cwmni Freshstart Care Ltd, bod gan eu tîm rheoli dros 30 mlynedd o brofiad wrth ddarparu cefnogaeth i rai o'r plant mwyaf bregus yn y DU.

Mae dau aelod o'r tîm rheoli mewn swyddi rheoli ym myd gwasanaethau cymdeithasol.

Mae'r cwmni yn dweud hefyd y bydd cyfleusterau o'r safon uchaf i'r plant fydd yn byw yna, a'r bwriad yw cyflogi staff "profiadol, cymwys" sydd yn rhoi "blaenoriaeth i fuddiannau'r plant."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian Lewis, sy'n 74 oed ac wedi byw yn Erw Las ar hyd ei oes, yn bryderus iawn am y cynlluniau

Mae cofnodion Tŷ'r Cwmnïau yn dangos y cafodd y cwmni ei hun ei gofrestru ym mis Ionawr 2019.

Mae Brian Lewis, sydd yn 74 oed, wedi byw yn Erw Las ar hyd ei oes, ac yn bryderus iawn am y cynlluniau.

"Cartref i blant maen nhw'n trio gwneud yw e. Ond pa sort o blant? Ni ffaelu cael yr ateb 'na," meddai.

"I fi, fi'n gallu gweld fel mae'n gweithio, 11-18 ac maen nhw gyd yn mynd i ddod o lefydd sydd ddim mo'yn nhw.

"Ni'n stryd dawel, ni'n nabod ein gilydd a ni'n gallu trysto pobl sydd yn y stryd 'ma. Beth sydd yn mynd i ddigwydd ar ôl iddyn nhw symud mewn, dw'i ddim yn gwybod."

Ar hyn o bryd, mae'r tŷ yn eiddo i'r Athro Marc Clement, gafodd ei ddiswyddo yn ddiweddar fel Deon yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, yn sgil ymchwiliad i faterion yn ymwneud â'r Pentref Llesiant arfaethedig yn Llanelli.

Does yna ddim cysylltiad rhwng Mr Clement a'r cwmni, yn ôl Freshstart Care Ltd.

Fe fydd y cais dadleuol i newydd defnydd y tŷ yn cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr.