Cymru a'r Alban angen 'rhagor o amser i graffu ar Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford a Nicola Sturgeon
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Drakeford a Ms Sturgeon wneud y cais mewn llythyr i Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, a Boris Johnson

Mae angen rhagor o amser i ganiatáu i seneddau Cymru a'r Alban graffu ar gytundeb Brexit Boris Johnson yn iawn, yn ôl prif weinidogion y ddwy wlad.

Bydd rhaid i'r ddwy senedd bleidleisio ar ddeddf i weithredu'r cytundeb - ac yn ôl Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, nid yw 10 diwrnod yn ddigonol i ystyried y mater.

Mae Mr Johnson eisoes wedi anfon llythyr heb ei arwyddo i Frwsel yn gofyn am estyniad pellach.

Ond mae wedi anfon llythyr arall yn dweud mai camgymeriad fyddai hynny.

Fe gafodd Mr Johnson ei orfodi i ofyn am estyniad ar ôl i ASau bleidleisio i oedi'r bleidlais ar Brexit nes bod y ddeddfwriaeth wedi pasio.

Fe wnaeth Llefarydd y Tŷ Cyffredin, John Bercow wrthod a chaniatau pleidlais ar y cytundeb Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin dydd Llun, gan nad oedd dim wedi newid ers y ddadl ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford a Nicola Sturgeon wedi diolch i Donald Tusk am "sicrhau nad yw'r opsiwn o'r DU i aros o fewn yr UE yn cael ei gau i ffwrdd"

Fe wnaeth Mr Drakeford a Ms Sturgeon anfon y cais mewn llythyr i Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk a chopi i Mr Johnson.

Yn y llythyr maen nhw'n dweud: "Rydym yn rhannu'r farn sydd y tu ôl i'r gwelliant gafodd ei basio yn Nhŷ'r Cyffredin nad oes digon o amser i graffu ar y cytundeb rhwng nawr a 31 Hydref."

Maen nhw'n dweud hefyd nad oes digon o amser i ACau ac Aelodau Senedd Yr Alban "gyflawni eu cyfrifoldebau cyfansoddiadol" cyn diwrnod Brexit ar 31 Hydref.

Maen nhw'n erfyn ar Mr Johnson i gydymffurfio "yn llawn ac mewn ewyllys da" gyda Deddf Benn, wnaeth ei orfodi i ofyn am yr estyniad.

Mae'r ddau hefyd wedi gofyn i Mr Tusk am estyniad fyddai'n ddigon hir i allu cynnal refferendwm arall, os byddai'n cael sêl bendith gan weddill y gwledydd sy'n rhan o'r UE.

"Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddatgan ein diolch am eich ymdrechion parhaus i sicrhau nad yw'r opsiwn o'r DU i aros o fewn yr UE yn cael ei gau i ffwrdd," meddai'r llythyr i Mr Tusk.