Trafnidiaeth Cymru'n ymddiheuro am ganslo trenau
- Cyhoeddwyd
Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi cyhoeddi ymddiheuriad mewn nifer o bapurau newydd o amgylch Cymru am nifer y trenau sydd wedi cael eu canslo yn ddiweddar.
Daw ychydig dros fis ers i Drafnidiaeth Cymru ddechrau rhedeg gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Mae'r ymddiheuriad wedi'i gyhoeddi ar dudalen lawn ym mhapurau newydd y Western Mail, South Wales Evening Post, South Wales Echo a'r Daily Post ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru olynu Arriva fel y darparwr ar reilffyrdd Cymru yng nghanol mis Hydref.
Daw'r ymddiheuriad gan brif swyddog gweithredol gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru, Rick Davey, a phrif swyddog gweithredol gwasanaethau trenau Network Rail, Alison Thompson.
Beio stormydd
Maen nhw'n dweud eu bod yn cydnabod bod "gormod o drenau wedi'u canslo, wedi bod yn hwyr neu'n cyrraedd gorsafoedd gyda llai o gerbydau na'r arfer".
"Hoffem ymddiheuro am nad ydych wedi derbyn y gwasanaeth rydych chi'n ei haeddu ac yn ei ddisgwyl," meddai'r datganiad ar y cyd.
Maen nhw'n rhoi'r bai ar stormydd diweddar, gan ddweud eu bod wedi difrodi trenau, a bod 36 allan o'u 127 cerbyd (28%) yn cael eu trwsio ar hyn o bryd.
"Rydym yn gwneud ein gorau glas i ddod â'r trenau hyn yn ôl i'n gwasanaeth yn ddiogel ac yn effeithiol," meddai'r ymddiheuriad.
"Mae ein peirianwyr yn gweithio o fore gwyn tan nos yn trwsio'r trenau presennol ac yn sgubo'r canghennau a'r dail llithrig oddi ar y rheilffyrdd."
'Haeddu gwell'
Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi wynebu beirniadaeth am nad yw'n cynnig gwasanaethau ar-lein yn ddwyieithog.
"Sylweddolwn eich bod chi, ein cwsmeriaid, yn haeddu gwell o'ch gwasanaethau trenau yng Nghymru a'r Gororau, ac nid dyma oeddech chi'n ei ddisgwyl gan eich cwmni trenau newydd," meddai'r datganiad.
"Hoffem ymddiheuro am yr anhwylustod a'ch sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella lefelau'r gwasanaeth cyn gynted â phosibl.
"Rydym ar ddechrau taith i drawsnewid gwasanaethau trenau yng Nghymru, ond mae hynny'n mynd i gymryd peth amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018