Jonathan Davies yn holliach i herio De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Jonathan Davies wylio'r gêm yn erbyn Ffrainc o ochr y cae ar ôl methu â gwella o'i anaf mewn pryd

Bydd Jonathan Davies yn dechrau yn erbyn De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd ar ôl gwella o anaf i'w ben-glin.

Fe wnaeth y canolwr golli'r fuddugoliaeth dros Ffrainc oherwydd yr anaf, er iddo gael ei enwi yn y tîm yn wreiddiol.

Mae Owen Watkin, wnaeth gymryd lle Davies yn y tîm, wedi'i enwi ar y fainc ar gyfer y gêm yn Stadiwm Yokohama.

Leigh Halfpenny sy'n safle'r cefnwr yn lle Liam Williams, yn dilyn y newyddion ddydd Iau y bydd yn colli gweddill y gystadleuaeth oherwydd anaf i'r ffêr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leigh Halfpenny oedd seren y gêm yn erbyn Uruguay yn y grŵp

Ross Moriarty fydd yn cymryd lle Josh Navidi, sydd allan o weddill y gystadleuaeth gydag anaf, fel wythwr.

Aaron Shingler sy'n cymryd lle Moriarty ar y fainc, tra bo'r enw newydd i'r garfan, Owen Lane, ddim wedi'i enwi yn y 23.

Fe fydd y gêm ddydd Sul yn garreg filltir bwysig i'r mewnwr, Gareth Davies, fydd yn ennill ei 50fed cap dros ei wlad yn Yokohama.

Disgrifiad,

Dywedodd Gareth Davies mai'r rownd gynderfynol fydd gêm fwyaf ei yrfa hyd yn hyn

Fe wnaeth Cymru drechu Ffrainc yn rownd yr wyth olaf, tra bo De Affrica wedi curo Japan.

Lloegr a Seland Newydd fydd yn herio'i gilydd yn y gêm arall, sy'n cael ei chynnal yn yr un stadiwm ddydd Sadwrn.

Dim Kolbe i Dde Affrica

Fe gyhoeddodd De Affrica eu tîm nhw ddydd Iau, a'r newyddion mawr yw nad yw'r asgellwr Cheslin Kolbe yn holliach i herio Cymru.

Sbu Nkosi sy'n cymryd ei le, a dyna'r unig newid i'r tîm drechodd Japan yn rownd yr wyth olaf.

Mae De Affrica hefyd wedi parhau gyda'u tacteg o enwi chwe blaenwr a dau olwr ar y fainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ross Moriarty sgoriodd y cais buddugol i Gymru yn erbyn Ffrainc yn rownd yr wyth olaf

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Ross Moriarty, Justin Tipuric.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Dillon Lewis, Adam Beard, Aaron Shingler, Tomos Williams, Rhys Patchell, Owen Watkin.

Tîm De Affrica

Willie Le Roux; S'Busiso Nkosi, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi; Handre Pollard, Faf de Klerk; Tendai Mtawarira, Mbongeni Mbonambi, Frans Malherbe, Eben Etzebeth, Lood de Jager, Siya Kolisi (C), Pieter-Steph Du Toit, Duane Vermeulen.

Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, RG Snyman, Franco Mostert, Francois Louw, Herschel Jantjies, Frans Steyn.