Gosod gorchymyn ar ddyn o Ynys Môn mewn achos puteindra
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr yn Llys y Goron Caernarfon wedi gosod gorchymyn risg caethwasiaeth a masnachu pobl am bum mlynedd ar ddyn o Ynys Môn - y cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru.
Clywodd y llys sut wnaeth Alun Williams, 63 oed o Fferm Manaw Fawr, Bodedern, rentu ei garafán a oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer troseddau masnachu pobl a gwerthu rhyw honedig.
Roedd yn rhentu ei garafán allan am £200 yr wythnos ac roedd dwy ddynes 49 a 50 oed o Wlad Thai yn ei defnyddio a chodi £100 yr awr am eu gwasanaethau.
Fe ddisgrifiodd swyddogion y lle fel "puteindy" mewn carafán, wrth i gyfreithiwr Mr Williams ddweud wrth y llys nad oedd prin yn "gallu darllen" a'i fod yn berson "anhrefnus".
'Cwestiynau pwysig'
"Ei fethiant oedd nad oedd wedi gofyn y cwestiynau pwysig," meddai'r cyfreithiwr Eilian Williams.
Dan y gorchymyn, bydd rhaid i Mr Williams ddilyn canllawiau pendant, sy'n cynnwys darparu gwybodaeth am alwadau ffôn a manylion banc i'r heddlu, peidio â theithio gyda gweithwyr rhyw, a pheidio â chario mwy na £200 heb eglurhad rhesymol.
Fe gafodd yr achos yn erbyn Thumma Peacock ei ohirio.
Roedd Ms Peacock yn arfer rheoli puteindy ym Mangor a chredir ei bod yng Ngwlad Thai ar hyn o bryd.
'Tawelu meddwl'
Dywedodd y Ditectif Sarjant Andrew Davies o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn croesawu derbyn y gorchymyn hwn gan y llys heddiw.
"Dyma'r cyntaf i Heddlu Gogledd Cymru, ac yn tanlinellu ein hymroddiad i wneud ein hardal heddlu'r lle mwyaf diogel i fyw yn y Deyrnas Unedig.
"Mae ein hymchwiliadau i'r tri unigolyn a arestiwyd yn parhau.
"Ond yn y cyfamser, mae'r gorchymyn hwn yn ceisio tawelu meddwl y cyhoedd y gwnawn barhau i weithredu yn erbyn y rhai hynny sy'n ymwneud â'r math hwn o weithgarwch troseddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2019