Boris Johnson eisiau etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
Boris Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson yn disgwyl i'r UE ganiatáu estyniad i Brexit tu hwnt i 31 Hydref

Mae Boris Johnson yn dweud y bydd yn rhoi mwy o amser i ASau drafod cytundeb Brexit, os ydyn nhw'n cytuno i gynnal etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.

Ond mae AS Ceidwadol o Gymru wedi dweud ei fod yn disgwyl i'r blaid Lafur "redeg oddi wrth etholiad am y trydydd tro".

Dywedodd y prif weinidog ei fod yn disgwyl i'r Undeb Ewropeaidd ganiatáu estyniad i Brexit tu hwnt i 31 Hydref, ond bod hynny yn erbyn ei ddymuniadau.

Mae wedi annog Llafur i gefnogi etholiad mewn pleidlais yr wythnos nesaf, ond yn ôl un aelod Cymreig o'r blaid ni fyddai'n datrys y sefyllfa.

Mae disgwyl i'r UE benderfynu ddydd Gwener a fyddan nhw'n caniatáu estyniad.

'Cadw at eu gair'

Dywedodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, ei fod yn disgwyl i'r blaid Lafur bleidleisio yn erbyn cynnal etholiad.

"Rydyn ni angen etholiad ac mae'r cyhoedd yn gwybod hynny," meddai.

"Os nad yw ASau'n fodlon gwneud yr hyn ddywedon nhw yn eu maniffestos yna rydyn ni angen etholiad arall.

"Mae Llafur wedi bod yn galw am un fis ar ôl mis, cyn dweud na fyddan nhw'n cefnogi un nes i ni gael estyniad.

"Rwy'n rhagweld y bydd gennym ni hynny erbyn dydd Llun felly cawn weld os y byddan nhw'n cadw at eu gair."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Davies fod Boris Johnson yn gwneud "popeth mae'n gallu ar hyn o bryd"

Dywedodd AS Llafur dros Ogledd Caerdydd, Anna McMorrin na fydd etholiad cyffredinol "yn datrys unrhyw beth".

"Yr hyn rydyn ni angen yw delio â Brexit a'r unig ffordd ddemocrataidd o wneud hyn yw ei roi yn ôl i'r bobl ar gyfer y penderfyniad terfynol," meddai.

Dywedodd AS Llafur dros Abertawe, Geraint Davies, bod Mr Johnson yn ceisio "gwthio'r cytundeb di-hid" a gorfodi etholiad, a bod hynny fel "gwleidyddiaeth gangster".

Galwodd am roi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl cyn cael etholiad.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn "gynnig ffug" gan Boris Johnson.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price rybuddio bod gan Mr Johnson "ddim cynllun rhesymol i ddod â llanast Brexit i ben, ac ni fydd etholiad cyffredinol yn datrys y broblem".

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau refferendwm ar y penderfyniad terfynol, yn hytrach nag etholiad, fel y ffordd gliriaf i ddod â'r tryblith i ben," meddai.

"Os yw ei gambl yn methu ddydd Llun, does gan y prif weinidog ddim opsiwn ond ymddiswyddo," meddai.

Ddydd Mercher fe wnaeth prif weinidogion Cymru a'r Alban ddweud y byddan nhw'n croesawu etholiad cyffredinol.

Ond dywedodd Mark Drakeford a Nicola Sturgeon bod angen manylion am estyniad posib i'r broses cyn gwthio am etholiad cyn y Nadolig.

'Rhaid cytuno i etholiad'

Mae'r BBC yn deall y bydd Mr Johnson yn ceisio cael ei gytundeb Brexit trwy'r Senedd os mai estyniad o fis yn unig fydd yn cael ei ganiatáu gan yr UE.

Ond pe bai tri mis o estyniad, nes diwedd Ionawr, bydd Mr Johnson yn cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf i geisio cael etholiad ar 12 Rhagfyr.

Os ydy Llafur yn cytuno i etholiad, mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn ceisio cael ei gytundeb Brexit trwy'r Senedd cyn iddo gael ei ddiddymu ar 6 Tachwedd cyn yr ymgyrch etholiadol.

"Os ydyn nhw [ASau] wir eisiau mwy o amser i astudio'r cytundeb gwych yma, fe gawn nhw - ond mae'n rhaid iddyn nhw gytuno i etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr," meddai Mr Johnson.