Gwrthrychau a cheiniogau yn cael eu dyfarnu'n drysor
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dyfarnu bod gwrthrychau canoloesol ac ôl-ganoloesol a gafodd eu darganfod yn y gogledd ddwyrain yn drysor.
Daeth yr eitemau i'r fei yn siroedd Dinbych a'r Fflint ac mae rhai'n dyddio o'r 13eg ganrif.
Maen nhw'n cynnwys ceiniogau arian a gafodd eu darganfod gan aelodau grŵp canfodwyr metel o ogledd orllewin Lloegr wrth ymweld ag ystad Plas Heaton, ger Trefnant, fis Awst y llynedd.
Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Ddinbych a Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint yn gobeithio caffael y trysorau, wedi i'r Pwyllgor Prisio Trysorau eu gwerthuso'n annibynnol.
Daeth y crwner cynorthwyol yn nwyrain a chanol gogledd Cymru, Joanne Lees i'r casgliad bod chwe chanfyddiad yn drysor:
Broetsh arian anelog (siâp modrwy)a gafodd ei darganfod yn ardal Llanfynydd - credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif.
Broetsh arian ganoloesol, tebyg i'r yn yn Llanfynydd, a gafodd ei ddatgelu yn ardal Cilcain
Modrwy lliw arian yn dyddio o'r 14eg ganrif a ddaeth i'r fei yn ardal Cilcain - roedd darn ar goll, ond mae'n cael ei disgrifio fel "esiampl dda o fodrwy addurnedig o ddiwedd yr oesoedd canol".
Modrwy aur o'r 17eg ganrif yn ardal Llanfair Dyffryn Clwyd - sy'n blaen ar y tu allan ond yn cynnwys arysgrif ar y tu mewn, sef 'CONTINEW FAITHFVLL' (parha'n ffyddlon).
Darn o nodwydd arian, botgyn neu bin ddillad o'r 17eg ganrif yn ardal Llanbedr Dyffryn Clwyd - roedd addurn fleur-de-lys ar y nodwydd, oedd yn cael ei ddefnyddio i glymu dillad.
Wyth o geiniogau arian a gafodd eu darganfod yn ardal Trefnant, ac sy'n dyddio o deyrnasiad Elizabeth 1 (1558-1603), James I (1603-1625) a Charles I (1625-1649).
"Fel nifer o gelciau eraill o'r cyfnod, mwy na thebyg i'r ceiniogau yma gael eu claddu er diogelwch yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr ym 1642-1651," meddai Alistair Willis, Uwch Guradur Niwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru.
"Mae'n hynod ddiddorol gweld dwy geiniog a fathwyd yn Nhŵr Llundain gan y Senedd wedi dechrau'r rhyfel.
"Er hyn, mae pen Charles I ar y ddwy, gan fod y Senedd yn dadlau eu bod yn ymladd cynghorwyr y brenin, nid y brenin ei hun."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2018